ei ddilyn, fel gwŷr Eryri a'r Berwyn. Mwy na'r cwbl, yr oedd yn arweinydd gwerin wedi deffro. Hwyrach mai rhyw freuddwyd cynhyrfus yng nghanol y nos oedd y deffroad hwnnw, i'w sylweddoli mewn bore oedd eto heb ymwasgaru ar y mynyddoedd; ond y mae rhyw nerth anfeidrol hyd yn oed mewn breuddwyd am ryddid. Yr oedd cenedlgarwch, yr oedd rhyddid, yr oedd dychymyg o blaid Owen Glyn Dŵr. A gwelwn ymgorfforiad, megis, o'r tri gallu hyn dan ei faner,— y tywysog gorthrymedig, y llafurwr gwasgedig, a'r myfyriwr na welai ond y dyfodol yn unig.
Yr oedd tywysogion Cymru gydag Owen Glyn Dŵr. Wedi cwymp Llywelyn, yr oeddynt at drugaredd y barwniaid Seisnig ffroenuchel a'u dirmygai wrth raddol ladrata eu tir oddiarnynt.Y tywysogion a'r cyfreithiau tir. Nid y brenin yn eu graddol a'r roddi dan gyfraith mwy gwaraidd, nid dyna hanes tywysogion Cymru rhwng cwymp Llywelyn a thywyniad seren Glyn Dŵr; hanes pruddach yw eu hanes hwy,—hanes diflaniad eu tir a'u gallu drwy ladrad gyfreithlonid gan gyfreithiau nad oeddynt hwy yn eu deall. Yr oedd min cyfreithiau tir Lloegr yn eu herbyn hwy. Yn ol cyfraith tir Cymru yr oedd yr holl deulu i ddal ei afael yn y tir, yn feibion ac yn wyrion hefyd. Ond yn ol cyfraith tir Lloegr, yr oedd y tir i aros yn llaw y mab hynaf yn unig. Bu ymdrech galed rhwng y ddau ddull, a phrin y gellir dweyd ei bod wedi darfod eto. Lle bynnag yr oedd tywysog Cymreig, rhennid y tir ymysg y teulu; a graddol ymgymysgai uchelwyr a gwerin. Ond lle bynnag y plannai barwn Seisnig ei hun, y duedd oedd i'r tir aros yn ei ddwylaw, ac i'r ystad fynd yn fwy o hyd. Y teulu, nid y tir, oedd hanfod undeb i feddwl y Cymro; a'i awydd ef oedd cadw'r tir yn gyffredin a'r mynyddoedd yn rhydd. Ond y tir oedd popeth i'r dyfodiad estronol, —llys tir oedd llys cyfraith, wrth y tir yr oedd y deiliaid yn rhwym, am dir y talai warogaeth i'w frenin, yn ol y