godi cynnwrf mawr yng Nghymru os ai adre'n ddig. Ond ni thyciodd dim yn erbyn Iarll Grey; a dywedodd yr Arglwyddi nad oeddynt hwy'n malio dim yn y Cymry coesnoeth lladronllyd. Dyna eiriau un hanesydd.
Gwyddid am Owen Glyn Dŵr yn barod. Yr oedd llawer o dir ei dadau yn ei feddiant, yr oedd wedi gwasanaethu'r brenin Harri'r Pedwerydd, yr oedd wedi ymosod ar Iarll Grey cyn hyn. Ond, erbyn hyn, y mae cryn dipyn o ansicrwydd am ddechre ei fywyd fel am ei ddiwedd; ac y mae'r niwl sydd o'i gwmpas yn ei wneud yn fwy tarawiadol, feallai, wrth edrych arno o'r pellter, am fod ei ffurf yn fwy aneglur.
Ar ddechreu'r bymthegfed ganrif, pan ddaeth yn un o brif gymeriadau'r dydd, yr oedd Owen Glyn Dŵr Owen Glyn Dŵr tua deugain oed, yn ŵr tal, meingryf, urddasol, gyda barf a gwallt llaes. Yr oedd ganddo ddau dŷ gwych,-y naill yn nyffryn y Ddyfrdwy, rhwng Corwen a Glyndyfrdwy; a'r llall, Sycharth, lle tery haul y bore ar lethrau dwyreiniol y Berwyn, ger Llansilin. Ni wyddom fawr am ei gartref yn nyffryn Edeyrnion, nid oes yno heddyw ond bryncyn glas ger afon Dyfrdwy, rhyw chwe milltir i'r gogledd-ddwyrain o Gorwen, gydag ambell dderwen i'w gysgodi ac ychydig gerrig yn olion tlawd o'r mawredd fu yno unwaith. Sycharth Ond y mae Iolo Goch wedi rhoddi darlun o Sycharth, "mewn eurgylch dŵr, mewn argae." Tŷ uchel oedd, aml ei simneiau, a hyfrydwch o'i amgylch,—y capelau a'u gwydrau gwiw, y berllan a'r winllan flodeuog, y parc ceirw, y dolydd gweiriog glân, yr ydau mewn caeau cywair, y pysgodlyn a'i adar,—nid rhyfedd na fydd
"Na gwall na newyn na gwarth
Na syched fyth yn Sycharth."