Tudalen:Llynnoedd Llonydd.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn faner yr edrychai pob Cymro gyda llygaid deisyfgar am dani, o Lanandras i Dyddewi, ac o Gaergybi i Gaer Dydd.

Yr oedd gallu brenin Lloegr yn gwanhau hefyd, yr oedd murmur yn erbyn y trethi, yr oedd 1402. Llwyddiant Owen.anffyddlondeb yng nghalonnau'r barwniaid. Yr oedd Dafydd ab Iefan Goch ac eraill yn gwibio rhwng Owen a thywysogion yr Iwerddon a'r Alban, ac yr oedd sôn fod Owen a rhai o'r barwniaid Seisnig mwyaf nerthol yn deall ei gilydd. Yn nechre 1402, ymosododd Owen ar Ruthyn, a llosgodd hi. Yna dechreuodd ddarostwng gororau Powys, a phan gyfarfyddodd fyddin yr Iarll Grey yn nyffryn y Fyrnwy, gorchfygodd ef ac aeth ag ef i garchar.

Yr oedd llwydd yn awr ar ei arfau, a chroesodd o Bowys i Faesyfed. Casglodd Syr Edmund Mortimer fyddin fawr yn Llwydlo, Bywyd Bryn Glas, Mehefin 22. a chyfarfyddodd fyddin y Cymry, dan Rhys Gethin. ym mynyddoedd Maesyfed. Aeth y Cymry oddiwrth Mortimer, ac ymunasant â'u cydwladwyr; a'r diwedd fu llwyr lethu'r Saeson, a chymeryd Syr Edmund Mortimer yn garcharor. Wedi'r frwydr hon gwelodd pawb mai Owen Glyn Dŵr oedd prif elyn Harri'r Pedwerydd, a bod ganddo ddigon o allu i ddymchwelyd yr orsedd sigl. O hyn allan efe, the great magician, damned Glendower, yw ffynhonnell pob gwrthryfel; ar ei arch ef cwyd y Ffrancod, yr Albanwyr, y Percies, ie y diafol ei hun, yr hwn a ymddanghosai'n aml yn y dyddiau hynny,—yn erbyn Harri. Yr oedd hen bleidwyr Rhisiart yr Ail mewn cynghrair âg Owen; a mwy na'r cwbl, ofnid fod Syr Edmund Mortimer, ewythr y bachgen ddylasai ddilyn Rhisiart fel brenin, wedi ymuno âg ef. Gwelodd Harri mai mater bywyd oedd llethu'r tywysog Cymreig ar unwaith. Ac ym mis Medi, pan oedd Owen wedi torri trwy gestyll y Deheudir ac yn