Tudalen:Llynnoedd Llonydd.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymdaith drwy Forgannwg, ymwthiodd tair byddin trwy'r gororau, o Gaer a'r Amwythig a'r Henffordd,—i gau am Owen Glyn Dŵr a'i fyddin, a'i lethu. Ond yr oedd yr ystormydd yn cyfarfod y byddinoedd hyn ymhob man; ac Owen yn rhywle y tu cefn i'r stormydd o hyd. Ac un o'i fyddinoedd ef oedd y storm, ebe'r croniclydd Seisnig," trwy swyngyfaredd fe gododd yr Owen hwnnw y fath dymestl o wyntoedd ac ystormydd ac eira a glawogydd, i ymladd â byddin y brenin, fel na chlywodd neb am un debig iddi erioed." Aeth Harri'n ol heb ennill dim; ond cafodd beth cysur wrth glywed fod yr Albanwyr wedi eu gorchfygu ym mrwydr Homildon Hill.

Erbyn diwedd 1402 y mae cynlluniau Owen Glyn Dŵr wedi llwyddo. Y mae wedi dechre rheoli Cymru drwy gyngor o dywysogion; y mae ei fyddin wedi ennill buddugoliaeth fawr, ac y mae brenin Gobaith diwedd 1402. Lloegr wedi methu torri'r rhwyd oedd Owen yn baratoi iddo ymddyrysu ynddi; y mae ei ymwneud â'r Ffrancod, â'r Albanwyr, ac â'r barwniaid Seisnig wedi bod yn hollol lwyddiannus. A mwy na'r cwbl, y mae wedi ennill, nid yn unig y Cymry, ond prif farwniaid y gororau hefyd, y mae Syr Edward Mortimer, ewythr y gwrthymgeisydd am goron Lloegr, wedi priodi ei ferch.

A oedd y flwyddyn 1403 i weled llwyddiant Owen Glyn Dŵr, ac adferiad annibyniaeth Cymru? Yr oedd ei gynlluniau wedi eu perffeithio. Yr oedd ef a'i fyddin a'r Mortimeriaid i Cynllun 1403. gymeryd pob castell yn Neheudir Cymru; yr oedd y Percies, barwniaid y gogledd, gyda'u byddin enfawr, i ymdeithio tua'r de; yr oedd y gogleddwyr a'r Cymry i ymuno i lethu Harri, ac i goroni aer y Mortimeriaid,—iarll Mers.

Gyda gwanwyn 1403 yr oedd Owen yn ymdaflu â'i holl egni i'r ymdrech, ac yr oedd y sêr yn eu cylchoedd fel pe'n ymladd drosto. Gan obeithio y deuai,