ar faes Agincourt,-gynllunio brad ei dywysog; ond yn y diwedd tyngodd lw o ffyddlondeb iddo. Yn eistedd- iad nesaf y senedd Gymreig yn Nolgellau, arwyddwyd y cytundeb â Ffrainc, ar y degfed o Fai. A thra yr oedd llysgenhadon "ein gogoneddus arglwydd Owen, tywysog Cymru," yn trefnu rhyfel â Lloegr gyda'i "frenhinol gefnder" yn Ffrainc, yr oedd Owen ei hun yn prysur ddiffodd marwor olaf y gwrthwynebiad iddo yng Nghymru. Daeth i Ddyffryn Clwyd, ac ymunodd John Trevor, esgob hirben Llanelwy, âg ef. Rhoddodd castellwyr Harlech ac Aberystwyth eu harfau i lawr; cymerwyd Caer Dydd a llosgwyd hi, oddigerth yr heol lle trigai'r Ffrancisciaid; ac ym mis Gorffennaf ymddanghosodd y fyddin Gymreig wrth byrth Henffordd, a ffodd duc York yn ebrwydd o'i blaen.
Yn niwedd 1404, y mae cynlluniau Owen bron yn ymyl sylweddoliad : ac Os oes gwobr i fod i allu Gobaith diwedd 1404 diamheuol gwladweinydd, i ofal di-ddiwedd, ac i egni diorffwys, yr oedd wedi haeddu buddugoliaeth. O'i gwm- pas yn senedd Harlech yr oedd arwein- wyr pob ardal y tu yma i Hafren, yr oedd brenin Lloegr yn ddyledog, yr oedd barwniaid Lloegr yn cydymdeimlo âg Owen, yr oedd Northumberland a Scrope yn ail-godi'r gogledd mewn gwrthryfel, yr oedd y llynges Ffrengig yn cadw'r ffordd yn glir rhwng Brest ac Aber Daugleddau, yr oedd byddin Ffrainc yn ymbaratoi. Ar graig Harlech yr adeg honno, gwelai Owen Glyn Dŵr sicrwydd annibyniaeth ei genedl a'i eglwys.
Ond, unwaith eto, daeth y taro cyn y medrai Owen roi'r cynghreiriaid anghydmarus i ymdeithio gyda'i gilydd yn erbyn y gelyn. Pan ddeallwyd 1405. Mynydd Pwll Melyn fod Lady Spencer wedi ceisio dianc i Gymru gyda iarll y Mers,—y bachgen oedd yn wir etifedd y goron,—penderfynodd y Cyngor roi pob gewyn ar waith i wynebu'r dymestl newydd oedd Owen Glyn Dŵr yn baratoi.