Llwyddodd y brenin ymhell y tu hwnt i'w ddisgwyliadau. Ym Mawrth, gorchfygwyd rhan o fyddin Owen, a chymerwyd ei ganghellydd galluog, Gruffydd Young, yn garcharor. Ychydig ddyddiau wedyn, daeth llythyr oddiwrth y tywysog Harri, yn adrodd hanes brwydr Mynydd Pwll Melyn, yng Ngwent, lle y daliwyd mab Owen, ac y lladdwyd ei unig frawd, Tudur. Dihangodd Northumberland a Scrope i'r Alban, ac yr oedd Deheudir Cymru heb neb i'w hamddiffyn rhag y brenin. Diflannodd Owen. Danghosir eto ogof ar draeth Meirionnydd lle y myn traddodiad iddo ymguddio. Ond yr oedd mor brysur ag erioed; a Y Ffrancod. chyda glaniad y fyddin Ffrengig hirddisgwyliedig ddiwedd yr haf, yr oedd mor rymus ag erioed. Ychydig, fodd bynnag, wnaeth y deuddeng mil Ffrancod. Ac ychydig wnaeth Harri hefyd; pan ddaeth i Henffordd, yr oedd tymestl ar fynyddoedd Cymru, heblaw Owen Glyn Dŵr.
Gyda 1406, darfyddodd chwerwder y hrwydro. Yr oedd Harri'r Pedwerydd wedi colli ei hen egni,— 1406. Adeg trai. oherwydd cydwybod ddrwg neu afiechyd dieithr; yr oedd bryd ei fab ar ymosod ar Ffrainc. Yr oedd y llafurwyr wedi ennill eu brwydr, ac yn dyheu am heddwch. Heb fyddin sefydlog, tra'r oedd brwdfrydedd yn treio, yr oedd yn anodd i Owen Glyn Dŵr ddal ei dir. Ond yr oedd ei ysbryd mor anhyblyg, a'i gynlluniau mor fawreddog, ag y buont erioed. Ar y dydd olaf o Fawrth ysgrifennodd lythyr at frenin Ffrainc ym Mhennal, ac ynddo geilw'r flwyddyn 1406 "y chweched flwyddyn o'n brenhiniaeth." Yn y llythyr addawa ufudd-dod i'r pab Ffrengig ar amodau. A'r amodau hynny yw'r darluniad cywiraf o amcanion Owen Glyn Dŵr.
Ar lawer cyfrif y ddau gymeriad mwyaf diddorol yn y bymthegfed ganrif yw'r gwrth-bab Peter di Luna a'r gwrthryfelwr Owen Glyn Dŵr. Yr oedd Benedictus XIII. a Thywysog Cymru,—dyna enwau swyddogol y