LLYTHYRAU GORONWY OWEN.
𝕷𝖑𝖞𝖙𝖍𝖞𝖗 1.
At W. ELIAS, Plas y Glyn, Mon
Y CELFYDDGAR FRTTWN A'M HANWYL GYFAILL GYNT,
СHWI a glywsoch sôn, nid wyf yn ammeu, am ryfeddol gynheddfau yr ehedfaen (load—stone) pa wedd y tynn atto bob math o ddur a haiarn; nyni a wyddom fod y gynneddf hon yn yr ehedfaen, a'r haiarn hefyd, ac a allwn weled â'n llygaid. yr effeithiau rhyfeddol uchod; ond ni's gwyddom pa fodd, na phaham y mae y peth yn bod; oblegid bod hyn, cystal ag amryw ereill o ddirgelion natur, yn fwy nag a allodd holl ddoethion a dysgedigion byd erioed ei amgyffred.
Ni fedraf lai na meddwl fod rhyw beth tra chyffelyb i hyn yn natur dyn, yr hyn a bâr iddo gynhesu wrth ryw un, ac ymhoffi ynddo, yn hytrach nag ereill, er nas dichon ddirnad pa fodd na phaham, neu am ba achos.
Am danaf fy hun, mi allaf ddywedyd, er dechreuad ein cydnabyddiaeth, na welais i yr un y bai hoffach genyf oi gymdeithas na William Elias; a llawer gwaith yr amcenais ysgrifennu attoch, pe gwybuaswn pa sut: o'r diwedd mi a gefais wybodaeth o Gymru, yn mha le yr ydych yn byw. Mi fynaswn i'r awen dacluso peth ar fy ymadroddion rhydlyd ac anystwyth: ni fynai mo'm clywed, er taer ymbil ohonof fel hyn :—
BARDD.
Dos, fy nghân, at fardd anwyl,
Os byddi gwan, na bydd gwyl:
Bydd gofus, baidd ei gyfarch,
Dywed dy bwyll, a dod barch.