Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/11

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

AWEN.

Os i Fôn y'm hanfoni,
Pair anglod i'th tafod ti;
Bydd gyfarwydd dderwyddon,
Gwyr hyddysg y'mysg gwyr Môn;
Priod iddi, prydyddiaeth,
Ca'dd beirddion ym Môn eu maeth;
Môn sydd ben er ys ennyd,
Ar ddoethion a beirddion byd,
Pwy un glod, a'i thafodiaith?
A phwy yn un a'i phen iaith?
Tithau waethwaeth yr aethost,
Marw yw dy fath, mawr dy fost;
Nid amgen wyd, nad ymgais,
Dirnad swrn, darn wyd o Sais;
A'r gwr, i'r hwn y'm gyrri,
Nid pwl ful dwl yw, fel di;
Ond prif-fardd yw o'r harddaf,
Am dy gân, gogan a gaf;
Hawdd gwg, a haeddu gogan,
Deall y gwr dwyll y gân;
Un terrig yw, nid hwyrach,
Gwn y chwardd am ben bardd bach.

BARDD

O Gymru lân yr hanwyf,
Na cham ran, a Chymro wyf:
A dinam yw fy mamiaith,
Nid gwledig na chwithig chwaith.
Bellach, dos, ac ymosod,
Arch dwys, atto f' annerch dod,
A gwel na chynnyg William
Elias na chas na cham.

Hyd yma mi a'i llusgais gerfydd ei chlust, ac yma hi a'm gadawodd; a sorri a ffromi a wnaethym innau, ac ymroi i ysgrifennu y rhan arall heb gynghanedd, yn hytrach nag ymddangos â'r awen, a bod yn rhwymedig iddi. Nid oes gennyf ddim newydd a dal ei ddywedyd i chwi, am nad adwaenoch y lle na'r trigolion. Mae genyf ddau fab, enw yr ieuengaf yw Goronwy. Yr wyf wedi cymeryd ail afael ar fy Ngrammadeg Cymraeg, a ddechreuais er ys cyhyd o amser; ac y mae'r gwaith yn myned ym mlaen fel y falwen, o achos bod genyf ormod o waith arall ar fy llaw. Mi a ddymunwn arnoch yrru i mi lythyr & rhyw faint o'r hen gelfyddyd ynddo, gynta' ag y caffoch ennyd.—Eich ufudd wasanaethwr, o ewyllys da,

GORONWY OWEN.
DONNINGTON, Tachwedd 30, 1751.