Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/103

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 21.

At WILLIAM MORRIS.


WALTON, Mehefin 25, 1754.

YR ANWYL WILYM,

DYMA'R eiddoch o'r 14 o'r presennol wedi dyfod i'm llaw heddyw; garw o gyd y maent yn cadw llythyrau pobl druain naill ai yn Nghaergybi neu yn Nghaer Nerpwl! Yr achlod iddynt, a diddaned cael gafael ar gwr tipyn o epistol. Bendith Duw a ffyno iwch', am fenthyg y Delyn Ledr; na thybiwch y byddaf mor greulawn anghristnogol a'i chadw yn hir rhag eich nychu o hiraeth. Och fi! onid gwych fyddai cael tipyn ychwaneg o'r Barddoniaeth yna? Ni flinwn i byth bythoedd arno. Ac os gyrrwch yma rai eraill yn gyfan mi a'u copiaf (os mynwch) yn y llyfr gyd a'u brodyr yn y llaw oreu a fedrwyf. Ond dywedwch a ddywetoch, ni wnewch byth i mi hoffi eich car D. ap Gwilym yn fwy na'r hen gyrff. Er hyny i gyd ni ddywedais i erioed (fel yr y'ch yn haeru) fod Gwalchmai wedi gwneuthur i mi ffieiddio ar Ddeian; ond ar Gywyddau, pwy bynag a'u gwnelsynt. Anacreon amongst the Greeks, and Ovid amongst the Latins give some people (of particular complexions) the most exquisite pleasure and delight. I don't condemn those people's taste; but give me Homer and Virgil, and in my poor opinion so much does Gwalchmai excel D. ap Gwilym and his class as Homer does Anacreon. But every man to his own taste, I claim no sovereignty over any one's judgement, but would be glad to have the liberty to judge for myself. Dyna ben am hyny. Ai ê, Cymro oedd Emrys Phylib? fe allai mai ê. Ond mi a adwaenwn frawd iddo oedd yn werthwr llyfrau yn Nghroesoswallt, na's mynasai er dim ei gyfri'n Gymro. Pa ddelw bynag, ni wnaeth yr hen Ddeon mo'r llawer o gamwri ag ef. He did but expose and ridicule the infantine style for fear it should get in vogue as the taste of the age, and that we should have Iliads written in it, which is no more than I would have done, had I lived in D. ap Iemwnt's time, pan gaethiwodd y Braidd Gyfwrdd, ac y dychymygawdd Orchest y Beirdd. I own with you, that the Distress'd Mother (my favourite Tragedy) &c. are in esteem to this day, and that