Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/104

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

deservedly, and will venture further to say they will continue so while the English Language is esteemed; but as to the preference given him to Pope by Mr. Addison, I can by no means agree with you, that being altogether a genteel sneer and satire upon his pastorals. Can you read Mr. Ph——s' pastorals especially where he quotes a passage with a "How agreeable to nature, &c." without discovering the sneer? For my part, when I compare the passage commended with the commendation, methinks I see before my eyes the wry face and the grin. And if he had pleas'd he might have said as much of Mr. Pope's; for in truth I could heartily wish that neither of them had ever attempted pastoral, their geniuses being much better adapted to greater things. They should have left pastoral to Gentle Gay, who (nothwithstanding all his fustian as it is called) is the only Englishman that deserves the name of a pastoral writer. Nid yw yr Hwyntwyr (chwedl chithau) onid hanner Cymry, gan eu bod gan mwyaf, yn hanfodi o had pobl Fflandrys a Normandi, a rhyfedd yw allu o naddynt gadw maint yn y byd o'r hên iaith, ac o'r achos hwnnw yn bendifaddeu mi fynwn iddynt adael ymgeleddu'r iaith i'r sawl a fedrant yn oreu wneuthur hynny, sef pobl Wynedd; ac os ewyllysiant ddangos. eu serch i'r iaith cymerant arnynt ran fawr o'r gost, ond na feiddiant roddi na llaw na throed yn y gwaith, rhag ei ddiwyno Allediaith ffiaidd. Ettwaith, lle bai'n y Deheudir ddyn a chanddo ddawn (neu a dybiai fod ganddo) ddawn Awenyddiaeth, bid rydd i hwnw (o'm rhan i) ganu ei wala, oblegid odid i ddyn awenyddgar gyfeiliorni'n gywilyddus; a diau fod gwaed Cymroaidd yn drechaf yn mhob un o'r cyfryw, o ethryb mai dawn arbenig ein cenedl ni yw Awen, megys y mae dawn yr eil—drem (i.e. second sight) yn perthyn i fyneich ucheldir yr Alban. Ac oddiwrth y cyffredin hynafiaid, y Derwyddon, yr hanyw pob un o'r ddeuddawn. Y Derwyddon, yn ddiddadl, oedd hynafiaid ein cenedl ni, ond pa un a'i hanfod o honom o waed Troia ni's gwn; anhawdd yw genyf goelio hynny, hyd oni welwyf ychwaneg o eglurdeb nag a welais eto. Diau gennyf nad yw'n anrhydedd na pharch i neb hanfod o'r fath wibiaid a chrwydriaid; eto bid i'r gwir gael ei le, ped faem oll yn feibion i Sion Moi, neu Loli Gydau Duon, na ato Duw i ni wadu ein rhieni. But when you say, "Dyweded Camder