Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/107

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

parcel of ducks as picking out the eyes of the slain on the field of battle, instead of crows and ravens; but as queer as that would have been, we are very sure that ducks (both wild and tame) will greedily devour both blood and guts, &c. when they meet with 'em in the water, gobbets of clotted blood, pieces of lights and livers, milts, &c., being our usual way of baiting wild ducks on the River Severn. And why might not Wil Wawch delight in such things as well as they, tho' he should not care to eat raw flesh. Gyrrwch y delyn gynta' galloch, da chwithau, yr wyf ar y drain am ei gweled hi. Dyma fi wedi cael llythyr o Allt Fadawg yn ddiweddar; mae yno bawb yn iach, ond bod y Llew yn drafferthus; mi gaf glywed etto'n fuan. Iê, llongau yw gwyddfeirch tòn, a Saison yw Eingl; ond oddiwrth y gair ongl, am eu bod gynt yn byw mewn ongl, i.e congl o'r deyrnas fel y mynnai'r Dr. Davies. The plural ongl would be yngl or onglau as from corph, cyrph, from môr, myr, &c. But the plural of Angl is Eingl, as from arf, eirf, carr, ceir, &c.; and who knows not that they formerly called themselves Angles, which in the singular number is Angle, or in our orthography Angl. Wele Duw a'm helpo, dyma fi yn myn'd i'm rhwymo fy hun i aros yn mysg yr Eingl tra b'wyf byw ysgatfydd. Mae'r Esgob Caer yn dyfod i gadw ei ymolygiad cynthefin yn Nerpwl yr 22 o'r mis yma, sef Gorphenaf, ac yno fe gyst i mi ymddangos a thalu'r mawr-bris am Leisians, a da os dihangaf heb gymmeryd dwy, un am y Guradiaeth a'r llall am yr Ysgol. Nid wyf yn amau na wna yr Esgob eithaf cnafeidd-dra â mi, oblegid na all yr un ohonynt aros gweled dŷn yn dyfod o'r naill esgobaeth i'r llall. Ond gwnaed a fyno yr wyf fi'n barod, a saeth (debygaf) gennyf i bob nod, oddigerth nod y bocced lydan hono sŷ wrth ei glôs ef, a saeth i hono hefyd os happia. You make a query whether fferis should be written offeris? No, say I, for it comes from the Latin word ferrum, iron or steel; but whether it be an English word or a Welsh one I can't tell; for they have no other name for it in this county or that of Chester but ferris or ferice, and I have not heard it so call'd in any part of England or Wales but in Anglesey. When I heard 'em here talk of ferris, I expected to have heard of yster bwch too, but never did. We have here many