Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/110

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gorau oll, mwy nag a wnaethai Sion Tomas Tudur y Taeliwr gynt am y Delyn Ledr. Dyma daflen o'r cynhwysiadau. [Ni roddir mo'r daflen hon yn y copiau.]

Dyna'r cyfan oll ond fod aneirif o Englynion go drwsgl yma a thraw ar bob congl wåg o'r dalenau. Cywyddau Pabaidd yw y rhan fwyaf o'r Cywyddau, sef i Dduw, i'r Epystyl, i'r Byd, i Anna, &c, Gresyn oedd! Mae canu gwych mewn rhai o naddynt, ond ni ddarllenais i erioed o'r cwbl. Cywydd y Llwynog yw un o'r rhai gorau a gyfarfum i erioed yn ddiamau. Mae'r hen Edward ab Dafydd, yn dyweyd "Nid oes wybod pwy a'i gwnaeth." Ond y mae'r mab, neu ryw un arall wedi ei dadu o ar Hugh Llwyd, Cynfel, Hugh Llwyd Cynwal, mae'n debyg. Os caf hamdden a chyfleusdra i yrru hwn i chwi megys tamaid prawf, i edrych a fyanoch ddim ychwaneg o'r ffar sy yma, mi a'i hysgrifenaf ar bapur arall, rhag ofn y gwaethaf. Mae'n debyg fod yn rhy dda gan fy mrawd brydyddiaeth i ddistrywio yr hen lyfr hwnnw, ac os ydyw heb ei ddifrodi, mi fynnaf ei gael cyn diwedd yr hâf. There are more curious old books of our language to be met with in some parts of Shropshire than there are in most parts of Wales, and that plainly shews that the people some generations ago valued themselves upon being Welsh, and loved their native country and language. But now those books are not understood, and consequently are not valued. I bought at a Bookseller's Shop at Oswestry, a Drych y Prif Ocsoedd (1st edition,) Dadseiniad Meibion y Daran, or a translation of Bishop Jewel's Apology, (by one Morrys Kyffin, o Glascoed, in the parish of Llansilin, in Shropshire, and formerly a fellow of a College, Oxon.,) into excellent Welsh, and Bp. Davies's Llythyr at y Cembry, prefixed to Salisbury's New Testament in Queen Eliza's time, and Prifannau Sanctaidd, &c., by Dr. Brough, Dean of Gloucester, and translated into very bad Welsh by Rowland Vychan of Caer Gai, and all for 8 pence! The first translation of the New Testament I met with in a certain man's hands in that town, and had in exchange for a silly, simple English book of God's Judgment against Murder, &c. Wrth hynny chwi ellwch weled nad oes nemawr o fri ar ein hen iaith ni yn y wlad honno. Mi gefais yno hefyd Eirlyfr y Dr. Davies, nid llawer gwaeth na newydd am chwe'swllt. Had I, when I