hon ydoedd fy mod yn llwyr gredu mai caingc ydoedd o gelfyddyd fy hen hynafiaid y Derwyddon gynt, ac nid drwg y dyfelais. Ond dyd! dyd! fe fu agos i mi anghofio pwy, a pha beth ydwyf, am hynny rhaid attal fy llaw? ond f'allai'ch bod chwi'ch hun yn un o'r freinniawl frawdoliaeth.
Aiê, mae Elisa Gowper wedi derio dannedd y Monwysion llesgethan? Och o druan! Drwg yw'r byd fod yr Awen cyn brined yn Môn nad ellid gwneuthur i'r carp safnrwth tafodddrwg wastrodu. Ond gwir sydd dda, ni thal i ddifetha prydyddiaeth wrtho, oddigerth y ceid rhyw lipryn cynysgaeddol o'r un dawn ag Ellis ei hun, sef yw hynny, nid dawn awenydd, ond dawn ymdafodi, ac ymserthu'n fustlaidd ddrewedig anaele. Fe debygai ddyn wrth dafod ac araith Elisa mai ar laeth gâst y magasid ef yn nghymysg ag album græcum, ac mai swydd ei dafod, cyn dysgu iddo siarad oedd llyfu t-n-a, ac onide na buasai bosibl iddo oddef blas ac archwaeth budreddi ei ymadroddion ei hun. Mi fum i un waith ynghwmni Elisa yn Llanrwst, er's ynghylch 14 blynedd i rywan, yn ymryson prydyddu extempore, ac fe ddywed fy mod yn barota bachgen a welsai erioed, ac eto er hyn cyn y diwedd, ni wasanaethai dim oni chai o a lleban arall o Sîr Fôn oedd yn ffrind iddo, fy lainio i; a hyny a wnaethent oni buasai Clochydd Caernarfon oedd gyda mi. Tybio 'rwyf mai prifio yn rhy dôst o rychor iddo a wnaethym yn ei arfau ei hun, sef dychanu a galw enwau drwg ar gân. One would expect that a person so very fond of giving affronts, should be as willing (or at least able) to bear them in his turn, but he is not. One would scorn to be the aggressor, but if I'm attacked, I may and must repel force by force; & se defendo is a good plea whate'er be the event. That was my case then, and I've many times afterwards blam'd my curiosity for taking notice of such an empty fellow. However send me his Englynion, and I promise you, upon the word of a Mason, I'll never answer 'em, unless by a fictitious name, and hardly SO. Wel! dyma hi yn 19 o'r mis a'r llythyr yn anorphen. Yr andras i'r milgwn! Ond ar fy ngair, gwych y canodd Gwalchmai i Rodri, ped fai genyf amser mi rown gais ar eglurhau rhyw faint arno; ond rhaid i mi adael hyny heibio tan y tro nesaf. Gwrda Einion ab Gwalchmai! Dyn glew