Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/112

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 34.

At WILLIAM MORRIS.


WALTON, Hydref 16, 1754.

YR ANWYL GYFAILL,

DYMA'R eiddoch o'r 11eg wedi dyfod i'm llaw ddoe, ac yn wir rhaid yw addef fy mod wedi bod yn lled ddiog yn ddiweddar, am na buaswn yn gyrru yna ryw awgrym, i ddangos fy mod yn fyw cyn hyn; ond bellach, dyma fi yn ei rhoi hi ar dô, ac mi orphennaf fy llythyr y foru, oddigerth i'r cywion personiaid yma fy hudo i allan i ganlyn llosgyrnau cŵn, ac i wylltio ceinachod. Maent ar dynnu fy llygaid i ddwywaith bob wythnos o'r lleiaf, a phrin y llyfasaf eu naccau. However, a little exercise does no hurt, and the young gents are very civil. Mi fum yn brysur ynghylch diwedd y Gorphenaf yn parottoi i gyfarfod yr Esgob i geisio ei dadawl ganiattad i bregethu, &c. yr hyn a gefais yn ddigon rhwydd am fy arian; ond ni's gorfu arnaf gymmeryd yr un licence am yr ysgol. Ac er pan glywais y newydd o'r Castell Coch, mi fum yn dal wrthi ddygna' y gallwn i barottoi ychydig o bregethau tra bae'r dydd yn hir, fel y gallwn gael y gauaf. i brydyddu wrth olau'r tân y nos, fel arferol. Nid gwaith i'w wneuthur wrth ganwyll ddimai yw prydyddu; ac nid mewn undydd unnos yr adeiledir y Castell Coch. Dyma'r Llew wedi gyrru i mi rai defnyddiau tu ag at yr adeilad orchestol honno, ac y mae'n dymuno ei fod yn agos attaf i gludo morter, ond am y rhelyw ei fod yn cwbl ymddiried i gelfyddyd yr adeiladwr. Ie, ië, ond bychan a ŵyr o fod yr adeiladwr yn rhydd ac yn freinniawg o'r gelfyddyd. How do you translate a free and accepted Mason? Ie, ac yn un o'r penmeistriaid hefyd. Wele, wfft i'r dyn! meddwch, paham hynny? Odid bwngc yn y byd o ddysgeidiaeth y bydd dyn gwaeth erddo, os paid ai gam-arferu. Fe haeddai'r gelfyddyd glod, pe na bai ddim rhinwedd arni, ond medru cadw cyfrinach; ac fel y dywaid y dysgedig awdwr, Mr. John Locke, am dani, "Pe hyn fai'r holl gyfrinach sydd ynddi sef, nad oes ynddi gyfrinach yn y byd, etto nid camp fach yn y byd yw cadw hynny yn gyfrinach;" ond y peth pennaf a'm hannogodd i 'spio i'r ddirgel gelfyddyd