Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/124

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 38.

At WILLIAM MORRIS.


WALTON, Super Montem, Jan. 1st, 1755

DEAR SIR,

Mi dderbyniais yr eiddoch o'r 4ydd, ond, Duw a'm cysuro, digon prin y medrwn ei ddarllen gan glafed oeddwn. I Dduw y bo'r diolch, dyma fi ar fy nhraed unwaith etto, ond yn ddigon egwan a llesg, e wyr Duw. Yr oeddwn ar y 10fed wedi myned i Crosby i edrych am f'anwyl gyfaill a'm cydwladwr, a'm cyfenw Mr. Edward Owen, offeiriad y lle, ac yno yr arhosais y noson honno, yn fawr fy nghroesaw yn nhŷ Mr. Malsall, patron fy nghyfaill, ac aethym i'm gwely yn iach lawen gyda Mr. Owen, ond cyn y bore, yr oeddwn yn drymglaf o ffefer, ond tybio'r oeddwn mai'r acsus ydoedd; ac felly, ymaith a mi adref drannoeth, a digon o waith a gefais i drigo ar gefn fy ngheffyl. A dydd Sul fe ddaeth Mr. Owens yma, o hono ei hun, i bregethu drosof, ac a yrrodd yn union i gyrchu'r Dr. Robinson, a Mr. Gerard yr Apothecary ataf, a thrwy help Duw fe ffynnodd ganddynt fedru gwastrodedd ac ymlid y cryd a'r pigyn, ond y mae'r peswch yn glynu yma eto. Mi wylais lawer hidl ddeigryn hallt wrth feddwl am fy Robin fychan sydd yn Môn. Ond beth a dal wylo! gwell cadw fy nagrau i beth angenrheidiach. A body and mind harass'd and worn out with cares and afflictions can't hold out. any long while. Gwnaed Duw a fynno. Ni bum yn glaf Galan ermoed o'r blaen, am hyny, mi wnaethym ryw fath ar Gywydd i hwn, sef y Calan o'r O.S., Ionawr 12fed.[1]

Tân am twymno, onid digrif o gorphyn yw Elisa Gowper. Mae'n sicr genyf ped fuasai'r hychgrug arnaf, yn lle'r cryd poeth, na buasai raid i mi wrth amgen meddyginiaeth nag Englynion Elis. Dyn glew iawn yw Dafydd Sion Dafydd o Drefriw, ond ei fod yn brin o wybodaeth; mi welaf nas gŵyr amcan daiar pa beth yw Toddaid, oblegid ei fod yn galw y Gadwyn hannerog yn ei Englynion yn Doddaid. 'Rwy'n dyall wrth Elisa ei fod wedi canu o'r blaen, ac wedi cael rhyw atteb

  1. Gwel tudal 50 Bardd Gor., arg. Lerpwl