Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/125

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gan y Côch, neu ryw un arall drosto. Mawr nad ellid cael golwg ar y cyfan. Dyma'r Englynion diniweidiaf a wnaeth Elisa erioed o'r blaen: rhyfedd fedru o hono gymmeryd y fath ortho. 'Roeddwn yn disgwyl gweled rhyw eiriau ceg—ddu, megis "Hen hwr gwthwr gast," fel y byddai'n arfer gyrru at fab clochydd o Landyfrydog. Brwnt a fyddai canu yn hyll i Elis, ag yntau ei hun mor dda ei foes a'i araith. Mae fel y dyfeisiech ryw ffordd ddirgel i yrru hyn o Englynion i Elisa: 'rwy'n tybio mai y ffordd oreu fyddai eu rhoi i ryw faledwr i'w hargraffu, ac yno fe'u cyhoeddid yn y man, heb wybod of ba le y daethant, a gwych a fyddai gan Wil Goch y Sign, neu Evan Elis eu caffael. Bid y Rhagymadrodd fal hyn:—Atteb, annerch, a chyngor y Bardd Coch o Fôn i Elisa Gowper, pastynfardd, Llanrwst, yn cynnwys athrawiaeth arbennig i ganu'n ddincerddiawl gymmeradwy, yn ol rheol ac arfer y Gofeirdd godidoccaf o'r oes; yn nghyd a thaflen o enwau yr holl drecc, cêr, offer, a pheiriannau angenrheidiol i'r gelfyddyd, na cheir mo'r fath mewn un Grammadeg a argraphwyd erioed; a'r cwbl wedi ei ddychymmygu a'i gyfansoddi mewn modd eglur, hawdd ei amgyffred gan y gwanaf ei ddysg a'i ddeall.[1]

Wela, dyna'r Englynion, byddwch chwithau sicr o'u gyrru iddo, ond ymgroeswch yn gadarn rhag son am fy enw i, oblegid. fe fydd Elis allan o faes merion ei gof, ac mi a'i gwrantaf fe gân yn fustlaidd i rywun, ac yno fe fydd agos i ddigon o ddrwg, ond goreu pe mwyaf o'r fath ddrwg a hwnnw. Os cân Elis i'r Coch, mi safaf wrth gefn fy nghydwladwr (o dan din fal y dywedant) hyd nas blino Elis a Dafydd o Drefriw, a phawb. But I would not be known or seen as an ally, much less a principal yn y fath ffrwgwd. Chwi a gewch yr Awdyl a addewais yn y nesaf.

Mae f'ewythr Robert Owen o Benrhos Llugwy yn dyfod drosodd yn o fuan i fyned i Manchester, ac fe ddaw a'm Robin Owen inau gyd ag ef, a phan elo'n ôl adref mi yrraf y Delyn Ledr gyd ag ef. That will be a safe way. Mi ge's lythyr oddiwrth y Llew yr un diwrnod a'ch un chwithau; yr oedd pawb yn iach yno, ac yntau ar gychwyn i Lundain. Yr

  1. Gweler Gwaith Gor. Arg. Llanrwst, tud. 114, Arg. Llundain, eyf. i., tud. 144.