Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/136

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

agos yn rhyfedd gennyf na ddeallem bob Gwyddel a ddoe o'r Iwerddon; ond gormod o dro sydd yn eu tafodau hwy wrth ymarfer âg iaith yr Ellmyn gynt, nid Saesoneg ond high German; ranys dywedant hwy a fynnont yng nghylch ei gwreiddyn, a dygant eu tadau o 'Spaen, Melisia, gwlad Roeg, neu'r Aipht neu'r man y mynnont, nid y'nt ond cymmysg o Ellmyn a Brython, yn eu hiaith o'r lleiaf. Mi dybiais ganwaith gynt fod y Wyddelig yn famiaith, ond cangymmeriad oedd hynny, fal y danghosaf os byddaf byw. Mae yma yn fy nghymydogaeth ddyn penigamp o arddwr o'n gwlad, un a adwaenech yn dda gynt, a'i enw Owain Williams, ond Adda yr wyf fi ambell dro yn ei alw; mi a'i gwelais ddoe, ac yr oedd yn dymuno ei wasanaeth attoch. Gan fod gennyf ardd o'r oreu (oreu o ran tir) mi fum yn cethru arno yn dost am ychydig hadau a gwreiddiach i'w haddurno, ac ni's medrodd gael i mi y leni oddiar ddyrnaid o snow drops a chrocus, oblegid y mae yn achwyn yn dost nad oes na hâd na gwraidd i'w cael trwy deg na hagr gan waethed a fu'r hîn i'w cynhauafa; ni wn i beth a geir flwyddyn nesaf. Lle iachus ddigon yw'r lle hwn, ac yn dygymmod yn burion â mi ac â'm holl deulu. Os byddwch faddeugar am a aeth heibio, ac mor fwyn a gyrru hyd bys o lythyr, llwybreiddiwch ef fel hyn :—To me at Northolt, near Southall, Middlesex, near London,

Duw ro i chwi iechyd, a blwyddyn newydd well na'r hen, ac well well byth o hyn allan. Annerchwch fi at Mr. Ellis a'r holl ffrindiau. Ydwyf, Syr, eich ufudd wasanaethwr tra b'wyf,

GORONWY DDU