Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/140

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y mae; Duw a'i rhyddhao o honynt Amen.—Am Gân Arwyrein y Cyw Arglwydd i.e. (Lord Powis) ni thybiais fod neb yn absen y Llew a'i cyflawnai i wneuthur dim lles â hi, oblegid fod y Llew wedi bod o'r blaen yn sôn am danaf wrth yr Iarll, yr hyn na bu neb arall, ar a wyddwn i, ac odid y cofiai'r Iarll mai fi y grybwyllasai'r Llew wrtho, oni bai iddo fo ei hun ei chyflwyno, a dwyn ar gôf i'r Iarll yr ymgom a fuasai yn fy nghylch. Mae hi etto heb ei llawn orphen. yn Gymraeg; ond bellach atti hi yn nerth braich ac ysgwydd Ond yn y cyfamser, dyma i chwi ryw Erthyl o Gywydd i'r Diawl tra boch yn aros am dani hi.—

A glywch chwithau'r Gŵr bonheddig yr ŷch yn cwyno i'ch Peswch, ac yn dwrdio myn'd i ryw le i'r Wlad i roi tro, pa waeth ynteu fyddai ichwi yma na lle arall ? Chwi gaech groeso calon i'r peth sydd yma, a diolch mawr am eich cymdeithas; chwi gaech wely rhwydd esmwyth, a dillad glân, tymhoraidd (ond heb ddim Curtains), ac chwi allech wneud eich Ystafell cyn dywylled a'r fagddu os mynnech. Chwi gaech ambell foliad o Bastai G'lomennod ar droeau, ac ymgomio gyda'r Doctor weithiau, os gwelech yn dda. A chymerwch hyn yn lle gwahawdd, neu beidiwch. Ple mae Mr. Parry o'r Fint? ond oedd y gwr da hwnnw wedi addaw bod yma cyn hyn? Beth sy'n ei ddal yna? Mi fuaswn i (yn wirionedd) wedi gyrru yna ymhell cyn hyn o amser, ond fy mod yn ei ddisgwyl beunydd tra fu wiw. Cofiwch fi atto, ac yn rhodd gofynnwch iddo, i ba beth. y mae'n chwareu priesien, yn addo dyfod ac etto'n naghau; ac os cewch y gwr talog yn gloff yn ei esgus, mae fel y rhowch iddo wers, a dau dro a hanner ar ei arddwrn, neu wasgu'r fegg arno mal y gwelo 'ch doethineb yn oreu, a'i yrru unwaith o fwg y Dref hyd yn y 'Pren dioddef ac odid na ddaw yma. Ond yn ddigellwair mae'n rhyfedd genyf beth sy'n ei lestair. Os medr ddygymmod a'r fywoliaeth sy yma, e fydd iddo gymaint croesaw a phed faai Dywysog Cymru; a hynny a ddywedais wrtho lawer gwaith, ac nis dywedwn yn fy myw ddim ychwaneg. Dyma'r Llythyr y talasoch am dano wyth geiniog wedi ei gael. Ai'n llythyr dwbl y darfu iddynt ei gyfrif? nid yw ond sengl, ac nid oes nemor o dda