Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/141

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ynddo chwaith. Mae'n dyfod oddiwrth Rhobert Owen, Gŵr fy modryb Agnes Gronw, ac yn rhoi hanes o ryw heldrin rhwng Proctorion Llanfair a f'Ewythr Rhobert Gronw, ynghylch yr hên Dŷ, lle ganed fy Nhâd, a'm Taid, a'm Hêndaid, a'm Gorhendaid, &c. &c., a phed fawn yno, myfi a rown ben ar yr ymryson, oblegid fi y piau'r Ty, a'r Gerddi, ac oll sy'n perthyn iddo, er na waeth gennyf mo'r llawer pe caai'r cigfrain ef; ond gwell fyddai genyf i rai o'm gwaed ei gael nâg estron genedl yn enwedig y Deiniols ffeilsion. Onid yw'n ddigon i'r Bannington's fod wedi llygru'n Cenedl trwy ymgymharu ac ymgyfathrachu â phob caingc (agos) o honi? a fynnent fwrw'r unig Gyw digymysg diledryw tros y Nyth? Mi fynnaf weled hynny, ac a fynnaf wybod beth a dalo fy hawl i'r lle, ped fai ond cutt mochyn. Nid rhaid ond rhoi'r peth yn llwyr, yn gywir, ac yn eglur o flaen y Dr. Nicolls, ac fe geir atteb yn rhad o'r Deml gan Wŷr a ŵyr bob cryglyn o'r Gyfraith. Ni fu erioed osod nag ernes ar y lle yn amser Tad na Thaid, na neb sy'n fyw heddyw, na thaledigaeth am dano onid 4s 6d i Eglwys Lanfair bob blwyddyn; ac fe dal y lle deirpunt, o'r lleiaf, yn ol y prisiau sydd ym Môn. Pwy piau bob Commons ym Môn? nid yr Eglwys mae'n debyg—Wele hai Dyma lythyr oddiwrth y Brawd Owen ap Owen o Groes Oswallt, yn dywedyd farw fy Mam ynghyfraith; mi gaf y grasbil yn dyhuddo'r Wraig Elin am ei Mam. Bellach fe gair gweled a gywirodd fy hen Chwegr ei geiriau. Hi fyddai'n addaw y caid rhyw wmbreth o bethau pan fyddai hi farw; ond yr wyf yn tybio nad oedd yn ei bryd, y pryd hyny, farw byth. Mae ystâd y Brithdir yn Glyn Ceiriog, a addawodd i Robin? Dyna i chwi gymaint o newydd a marw Gwrach; ond nid wyf i'n disgwyl cymaint a Grôt oddiwrthi. Etto mi ddisgwyliaf lythyr cyn bo hir oddiwrth y Brawd John Hughes, ac yno fe gair gwybod pa sutt a fu. Er mwyn Dŷn a oes modd yn y byd i gael dwsin o Frainge; ni buont erioed brinnach yma, na mwy angen am danynt. Ni feddaf gymaint ag un i'w yrru i Gybi; felly, pa beth a wneir, meddwch chwi?—Mi wnaethym Fablyfr o Lyfryn y Penllywydd er ys talm mawr o amser, ac ai dygaf yna pan ddelwyf; ond Heb y Gronwy Ddů, pa bryd a fydd hynny?