Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

(a young Clergyman of a very great fortune) wedi bod yn hir daer—grefu ac ymbil ar yr Esgob am ryw le, lle gwelai ei Arglwyddiaeth yn oreu, o fewn ei Eagobaeth ef, ac atteb yr Esgob oedd, o's Mr. Ellis a welai'n dda wasanaethu Llanfair (y lle gyrrasai'i Gappelwr fi,) yr edrychai efe (yr Eagob) am ryw beth gwell iddo ar fyrder. Pa beth a wnae Drwstan? Nid oedd wiw achwyn ar y Cappelwr wrth yr Esgob, nac ymryson â neb o honynt, yn enwedig am beth mòr wael, oblegid ni thalai'r Guradiaeth oddiar ugain Punt yn y flwyddyn.—Gorfu arnaf fyned i Sir Ddymbych yn fy ol, ac yno y cefais hanes Curadaeth yn ymyl Croes Oswallt [yn sir y Mwythig, ac yno y cyfeiriais;] ac er hynny hyd y dydd heddyw ni welais ac ni throediais mo ymylau Môn, nag ychwaith un cwrr arall o Gymru, onid unwaith, pan orfu i mi fyned i Lan Elwy i gael urdd Offeiriad. Mi fù'm yn Gurad yn Nhref Groes Oswallt ynghylch tair Blynedd, ac yno y priodais yn Awst 1747. Ac o Groes Oswallt y deuais yma yn Medi 1748. Ac yn awr, i Dduw bo'r diolch, y mae gennyf ddau Langc têg, a Duw roddo iddynt hwy ras, ac i minnau iechyd i'w magu hwynt. Enw'r hynaf yw Robert, a thair blwydd oed yw er Dydd Calan diweddaf. Enw'r llall yw Gronwy, a blwydd oed yw er y pummed o Fai diweddaf.—Am fy mywoliaeth nid ydyw on'd go helbulus, canys nid oes genyf ddim i fyw arno onid a ennillwyf yn ddrud ddigon. Pobl cefnog gyfrifol yw Cenedl fy Ngwraig i, ond ni fu'm i erioed ddim gwell erddynt, er na ddygais moni heb eu cennad hwynt, ac ni ddigiais mo'nynt 'chwaith. Ni fedr fy Ngwraig i ond ychydig iawn o Gymraeg, etto hi ddeall beth; ac ofni'r wyf, onid Af i Gymru cyn bo hir, mae Saeson a fydd y Bechgyn; canys yn fy myw ni chawn gan y mwyaf ddysgu gair o Gymraeg. Mae gennyf yma Ysgol yn Donnington, ac Eglwys yn Uppington, i'w gwasanaethu; a'r cwbl am 26 Punt yn y flwyddyn; a pha beth yw hynny tuag at gadw tŷ a chynifer o Dylwyth, yn enwedig yn Lloegr, lle mae pob peth yn ddrud a'r Bobl yn dostion ac yn ddigymmwynas? Er hynny, na atto Duw i mi anfodloni, oherwydd Po cyfyngaf gan Ddyn ehengaf gan Dduw.[1] Nid oes ond gobeithio am

  1. Quo angustius apud hominem (hominis sensu) eo largius liberius) Apud Deum,