Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

well Troiad ar Fyd. Fe addawodd eich brawd Llewelyn o Geredigion,[1] yr edrychai ryw amser am ryw le i mi Ynghymru; ac nis gwaeth gennyf fi o frwynen ymha gwrr i Gymru. Duw a gadwo iddo ef iechyd a hoedl, ac i minnau ryw fath o fywioliaeth, ac ammynedd i'w ddis- gwyl. Nid oes gennyf yn awr neb arall i ddisgwyl wrtho, Ni waeth gan y Bobl yma, am a welaf fi, er yr hwyed y cadwont Ddyn danodd, os cânt hwy eu gwasanaethu, deued a ddel o'r Gwasanaethwr, ni phrisiant hwy ddraen, er gwario o hono ei holl nerth a'i amser, ie, a gwisgo o hono ei Gnawd oddi am ei Esgyrn, yn eu gwasanaeth hwynt. Ysgottyn yw'r gwr yr wyf yn ei wasanaethu yn awr, a Douglas[2] yw ei enw. Yagatfydd, chwi a'i hadwaenoch; y mae yna yn Llundain yn awr, a'r rhan fwyaf o'i amser, gyda Iarll Baddon (Earl of Bath) yn dysgu ei Fab ef. Efe yw'r Gwr a gymmerth blaid y Prydydd Milton, yn erbyn yr Enllibiwr atgas gan Lauder. Pa wedd bynnag, tôst a chaled ddigon yw hwnnw wrthyf fi; 'r wyf yn dal rhyw ychydig o Dir, sy'n perthyn i'r Ysgol, ganddo ef, ac er ei fod yn rhy ddrud o'r blaen, etto fe yrrodd y leni i godi ar fy Ardreth i, rhag ofn a fyddai i Gurad, druan, ennill dim yn ei wasanaeth ef, neu gael bargen ry dda ar ei law ef. (O, the unparalleled extent[3] of Scotch kindness and charity !) Etto ni chlywai ei Stiwart ef (yr hwn a wyddai'n anian dda pa beth a dalai y Tir) ar ei galon godi mo'r Ardreth un ffyrling yn uwch, ac odid y rhoesai neb arall gymmaint am dano. Nid wyf ond Bwngler am ysgrifennu Llythyr Cymraeg, o eisiau arferu, er fy môd yn dyall yr Iaith yn o lew; ac am hynny gwell i mi bellach droi'r Ddalen.—I am exceedingly obliged to you for the favour you did me in putting my name in for one of the Welsh Dictionaries, and should be glad to know if one might buy two or three of the Bibles to give away, and at what price? As for Cywydd y Farn Fawr, I would have sent it you with all my heart, but that I understand that Mr Ellis, Minister of Holy-head, intends to be at the expence

  1. Lewis Morris, Esqr. of Cardiganshire.
  2. Dr. Douglas, late Bishop of Carlisle, now Bishop of Salisbury.
  3. Yn y llawysgrif "extensiveness" wedi ei gywiro i "extent,"