Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hear what vacancies there are, and how much worth, and let the accepting be in my own choice; otherwise I may be tied, nolens volens, to a blind bargain. Ie, drud gethin yw argraffu cywyddau yn y Mwythig, yn enwedig os mynnir papur da. Ni chlywais oddi wrth y Person Williams er ys talm mawr of amser. Nid gwiw genyf ymhel ag ysgrifenu nodau ac esponiadau hyd onis gwypwyf yn sicr pa'r un a wneir, ai eu hargraffu ai peidio; ond nid ydyw hyny, deued a ddêl, oddi ar waith dwy awr neu dair o amser. Gweled yr wyf nad yw ond gwaith gwellt imi roi fy ewyllyswyr da i'r gost o argraffu peth er fy mwyn i, na wna ffyrlingwerth o les i mi na hwythau, ond rhoi gwaith i ambell geceryn i 'spio gwallau ac i'm coegi a'm cablu am fy ngwaith. Llyna arfer rhan fawr o bobl Fôn, ie a phobl gwlad arall, gynt; ac cdid eu bod etto nemmawr gwell eu moesau. Am hyny synhwyrolaf y tybiwn adael iddynt ganu dyriau Elisa Gowper o Lanrwst, yr hyn fo hoffaf ganddynt. Etto gwnewch chwi a fynnoch. Os eu hargraffu a welwch yn orau, ni phrisiaf i ddraen am y cabl a'r gogan a gaffwyf gan bennaubyliaid. Prin iawn yw yr arian gyda mi,—prinach o lawer na'r cywyddau,—ac onide ni fyddwn 'chwaith hir yn ymarofyn pa un a wnaid eu hargraffu ai peidiaw.

Ydwyf eich Gwasanaethwr,
GRONWY DDU.