Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 11.

At WILLIAM MORRIS.


DONNINGTON, Chwefror 24, 1753.

GAREDIG SYR,

Llyma'r eiddoch o'r 10fed yn f' ymmyl er ys wythnos; er hoffed yw gennyf eich epistolau, etto nid wyf mor annioddefgar nad allwn weithiau aros eich cyfleusdra am danynt, nac mor sarrug nad allwn faddeu rhyw swrn o'ch esgeulusdra o bai raid, a chyd-ddwyn â'ch annibendod, am nad wyf fy hun mor esgud ag y gweddai; felly boed sicr i chwi nad ymliwiaf byth â chwi o'r erthyb hwnnw; a phed fawn Bâb, chwi gaech lonaid y cap coch o'm pardynau. Prin y gallech goelio, ac anhawdd i minnau gael geiriau i adrodd, mor rwymedig wyf i Mr. Ellis a chwithau. Diau mai o wir serch ar ddaioni, ac nid o ran cydnabyddiaeth, neu un achos arall o'r cyfryw, y mae Mr Ellis gymmaint ei garedigrwydd; a Duw awdwr pob daioni, a dalo iddo.—Fe orfydd arnaf, yn ddiammau, chwilio am ryw le cyn bo hir, ac felly dybygaf y dywedwch chwithau pan wypoch fy hanes: Y mae genym yma ryw ddau 'scwier o hanner gwaed (chwedl y Bardd Cwsg) un Mr. Lee, ac un arall Mr. Boycott, y naill a fu, a'r llall sydd, yn Ben Trustee i'r Ysgol yma. Yr oeddwn o'r dechreu hyd yr awr hon mor gydnabyddus â'r naill ag a'r llall; y diweddaf sydd un o'm plwyfolion yn Uppington; ond y llall a fu yn wastadol yn gynnorthwywr i mi yn fy anghenion: Mr. Lee, a roddai i mi fenthyg pump punt neu chwech wrth raid, ond gan B—tt, ni chaid amgen na mwg o ddiod a phibellaid; ac weithiau pan ddigwyddai iddo ddyfod i'r Eglwys (yr hyn ambell flwyddyn a fyddai yng nghylch teirgwaith) mi gawn ran o'i giniaw, os mynnwn, ond fe'm naccaodd y cadnaw o fenthyg chweugain wrth fy angen, er nas gofynaswn ond i brofi ei haelder ef; 'rych yn llygadrythu, ysgatfydd, wrth glywed sôn am fenthyccio arian, ond nid rhyfedd y peth, a mi yn dal rhyw faint o dir, ac yn talu treth ac ardreth a chyflogau, heb dderbyn mo'm cyflog fy hun ond dwy waith, ac yn amlaf unwaith, yn y flwyddyn. Pa ddelw bynnag, mae rhyw elyniaeth rhwng y ddau wr uchod, a'r sawl a gaffo gariad un, a fydd sicr o gâs y llall; Lee, sydd χουργ, a Boycott sydd yn un