Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o addolwyr Iago. Pob cyffelyb ymgais, fal y dywedant; felly nid anhawdd dirnad pa un gymmhwysaf ei hoffi o ran ei blaid, a phed amgen, pa un a haeddai hefyd ei hoffi er mwyn ei haelioni. Nid ellais erioed aros addolwyr Baal, Iago, &c. &c., a'u cabals a'u celfi, ac ni ddysgais erioed chware ffon ddwybig, a thybio 'r wyf, na ddichon neb wasanaethu Duw a mammon. And if my policy is not, sure my honesty and plainness are to be commended. O'r ddeuwr hynny Boycott yw eilun fy Meistr (fal y mae gnawd i un o ucheldir yr Alban,) a chan fod yn gorfod arno ef fod yn Llundain, ar law Boycott y gadawodd ei holl fatterion yma, i'w trin fal y mynno; ac felly Boycott sydd yn talu i mi fy nghyflog ac yn derbyn fy ardreth, &c. &c. Ac yn awr dyma'r anifail, wedi cael o honaw fi yn ei balfau dieflig, yn dwyn fy nhippyn tir oddiarnaf, without the least colour of reason or justice, or even the formality of a warning. Yn iach weithian llefrith a phosel deulaeth, ni welir bellach mo'r danteithion hynny heb i mi symud pawl fy nhid. Ni wiw i mi rhagllaw ddisgwyl dim daioni yma, ac anghall a fyddai fy mhen pe disgwyliwn, ac odid i mi aros yma ddim hŵy na hanner y gwanwyn o'r eithaf; ond o'r tu arall mae i mi hyn o gysur; daccw Mr Lee, wedi cael i mi addewid o le gan yr Arglwydd Esgob o Landaff, yn gyntaf fyth y digwyddo un yn wag yn ei Esgobaeth; mi glywaf ddywedyd na thal y lleoedd hynny nemmor, ac nad oes ond ychydig iawn ar ei law of ped fai'r holl bersoniaid yn meirw. Beth er hyny? Gwell rhyw obaith na bod heb ddim; ond Och fi, wr fach! pa fodd i ddyall eu hiaith hwynt-hwy? a pha bryd y caf weled fy anwylyd Môn doreithiog a'i mân draethau? Dyna gorph y gainge. Llawer gwaith y bwriedais gynt (ac ni's gwelaf etto achos amgen) na ddown byth i Fôn i breswylio, hyd na bawn well fy nghyflwr nag yr oeddwn pan ddaethum allan o honi: pan ddaethum o honi, 'roedd genyf arian ddigon i'm dianghenu fy hun, a pha raid ychwaneg? ac nid oedd arnaf ofal am ddim ond f'ymddwyn fy hun fal y gweddai, a thybio'r oeddwn fod dwy law a dau lygad yn llawn ddigon i borthi un genau; diammeu na thybia'r byd mo'r cyflwr, presennol elfydd i hwnnw a grybwyllais; y mae genyf yn awr lawer o safnau yn disgwyl eu porthi, er nad oes gennyf ond