Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/72

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymenyn yn Nerpwl: rhodd gymmeradwy iawn yw hon, a bendith Duw am dani, ar bwy bynnag y mae'r gost, ai chwi eich hun, ai y person a chwithau; Duw a dalo i chwi eich dau, daed eich ewyllys. Ni welais i olwg etto ar yr hen Physygwr Ioan Dafydd Rhys, ac ni's gwn pa un a gaf ei weled byth ai peidio. Er mwyn dyn, gadewch wybod gyda phwy y gyrrwyd ef, ac yn nwylaw pwy y rhoddwyd yn Nghaerlleon. Rhowch fy ngwasanaeth, a chann diolch i Mr. Ellis fwyn; Duw a wnelo iddo gael personoliaeth Rhosgolyn; nis gwn pwy a wna fwy o ddaioni â hi. Os bydd ar neb awydd i yrru ei blentyn yma, y pris yw deuddeg punt yn y flwyddyn, s'i ddysg am ddim: a llai na hynny a'm rhydd mewn colled. Na phoenwch y tro nesaf yn gyrru i mi ffranc, oblegid mi a gefais ynghylch 24 gan Mr. Fychan, ac un o lyfrau Survey Mr. L. Morris. Er mwyn dyn, gadewch wybod a ydyw Mr. L. Morris yn Ngallt-Fadog ai yn Llundain, a gadewch imi wybod gynta' bo modd, oblegid y mae arnaf ddialedd o eisiau ysgrifennu atto. Duw fo gyda chwi oll, a diolch trosof.

I am, Dear Sir, Yours most sincerely and cordially,

GORONWY DDU.