Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/73

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 20.

At Richard MORRIS.


WALTON, Rhagfyr y 17eg, 1753.

YR ANWYL GYDWLADWR,

LLYMA 'ch caredig Lythyr o'r 17eg o Dachwedd, neu'n hytrach o'r 8d o Ragfyr, wedi dyfod i'm dwylo, er y 12d o'r Mis presennol. Fe fu'n ddrwg anaele gennyf na allaswn yrru y Cywyddau a'r Nodau arnynt attoch yn gynt, on'd bod achos. da i'm rhwystro, yr hwn na feddyliaswn o'r blaen ddim am dano. 'Rwyf yn cofio grybwyll o honof gynt wrthych, nad oedd ysgrifennu Nodau ar y ddau Gywydd amgen na gwaith dwyawr neu dair o amser; ond, Duw yn fy rhan, camgyfri o'r mwyaf oedd hynny. Nid gwaith dwy neu dair o oriau ydoedd darllen Homer a Virgil trostynt, a hynny a orfu arnaf wneuthur, heb fod mor llawer gwell er fy ngwaith. Nis coeliai'ch Calon byth leied oedd yno i'w gael tuag at Nodau na dim arall. Meddwl yr oeddwn nad oedd neb a ddichon ysgrifennu dim mewn Prydyddiaeth na cheid rhyw gyffelybiaeth (neu Parallel) iddo yn y ddau Fardd godidog hynny; ac felly yr oeddwn yn disgwyl cael cryn fyrdd o debygleoedd o honynt, yn enwedig o Homer, i addurno fy mhapiryn; ond, och fi! erbyn rhoi tro neu ddau ymmysg y Penaethiaid y Groegiaid beilchion, a chlywed yr ymddiddanion oedd arferedig gan amlaf, ym mysg y rhai Campusaf o honynt, hyd yn oed Πόδας ώκύς[1] ei hun a Agamemnon ac Ulysses, a llawer Arwr Milwraidd arall, mi ddyellais yn y man, nad oedd un o honynt yn meddwl unwaith am ddim o'r fath beth a Dydd y Farn; ac felly na wnai ddim ar a dd'wedant harddwch yn y byd i'm Cywydd i; ac am a welais, nid oedd. Hector foesachus ynteu, a Blaenoriaid a Phendefigion Troia fawr, ddim gwell; Pius Æneas ynteu, er maint y Glôd a roe Virgil iddo am ei Dduwolder, ni choeliaf nad y gwaethaf oedd o Genedl Troia, wrth ei waith yn dianc oddiyno yn lledradaidd heb wybod i'w Wraig, ar hyder, (mae'n debyg) taro wrth ryw Globen arall i'w ganlyn. A pheth mae'r cast a wnaeth

  1. H.y., "y Buan ei Droed," sef Achilles, yn ol fel y galwai Homer ef.