Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/84

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 23.

At WILLIAM MORRIS.


WALTON, ......

DEAR SIR,

WEL! Dyna ichwi'r Farwnad,' fal y mae; eithr nid gwiw genyf fyned i roi'r 'Briodasgerdd' ar lawr ar hyn o bapur; canys da y gwn nad oes mo'r digon o le i'w chynnwys. Prin y tâl i'w gyrru i neb, oblegid nis meddwn un Gramadeg pan wnaethpwyd hi; ac nid oes ynddi namyn dau fesur yn unig, sef 'Cywydd deuair hirion' a Chywydd deuair fyrion'; ond bod y rhei'ny wedi eu gwau a'u plethu groes ymgroes trwy eu gilydd, ac nis gwyddwny pryd hyny nenmawr o fesur arall. Yr oeddwn wedi llwyr ddiflasu ar rygnu yr un peth ganwaith trosodd; a braidd na roeswn ddiofryd byth wneuthur un braich o bennill hyd oni chawn Ramadeg. A phe cawswn. Ramadeg yn gynt, e fuasai gant o bethau wedi eu gwneuthur cyn hyn. Nid oedd arnaf fi eisiau (a pha raid?) yr un Gramadeg i ddysgu'r iaith. Cymmaint a oedd yn ol oedd engraphau o'r 'Pedwar mesur ar hugain.' Ac nid er bost na bocsach yr wyf yn dywedyd, ond yr wyf yn ammeu fod fy mhen a'm hymenydd fy hun cystal am yr iaith, neu well, a'r Grammadeg gorau a wnaethpwyd etto. Os bydd genyf yn y man awr i'w hepgor, mi a darawaf y 'Briodasgerdd' i lawr ar haner llen arall o bapur. Mi glywais y dydd arall o Allt Fadawg, ac yr oedd pawb yn iach; ond achwyn yn dost yr oeddid ar greulondeb a dichellion yr hwyntwyr.' Nid oedd y llythyr ond byr; a hyny i ofyn cennad i newid gair neu ddau yn Nghywydd y Farn,' i gael ei yrru i Lundain allan o law. Ac fe ddywaid y gwnai rai nodau ychwaneg arno, heblaw a wnaethum i fy hun; yr hyn a ddymunais arno ei wneuthur. Duw gyda chwi! Wyf yr eiddoch,

GRO. DDU.