Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/85

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 24.

At . . . .


WALTON, January 8th, 1754.

DEAR SIR.

I BEG you would write as soon as you conveniently can, and in answer you shall have Awdl y Gymdeithas ar y 24. Mesur. Pray answer my queries about Taliesin, Elphin, &c. You see how ignorant I am with regard to our Welsh Antiquities and Writers, and how could I be otherwise, seeing I never saw any of the Welsh MSS? Fe gai Enaid rhyw Ddŷn a yrrai imi fenthyg un neu ddau ohonynt. Nis gwn i pe bai am fy hoedl, pa fodd y gwnaethym fath yn y byd o brydyddiaeth a minnau heb wybod na gweled ond lleied o'r fath beth. Cymmaint ag oedd o'm tu, oedd, fy mod yn medru'r Iaith yn dda, a chennyf gryn dippyn o dueddiad naturiol at y fath bethau; ac er hynny i gyd, 'rwy'n meddwl nad yw'r peth ddim llai na rhyfeddod. Byddwch wych. Mae arnaf agos. gywilydd gweled yr Awdl wirionffol yma, ac mi amcenais. beidio ai gyrru wedi ei hysgrifennu. Da chwithau na ymheliwch ddangos mo'ni i neb.—You ask whether I have seen Cyfraith Hywel Ddå of Wotton's, & Notes, Williams's Edition or Translation. Ni welais i erioed ddim o'r fath beth, na dim arall yn Gymraeg a dalai ddim ond y Beibl, a'r Bardd Cwsg. Gwyn eich byd chwi ac eraill sy'n cael gweled eich gwala o hên MSS, &c. Rhof a Duw, cedwch yr hên MS, tros undydd a blwyddyn, ac yno odid nad ellwch hepcor y copi i ddiddanu Gronwy Ddû druan, na welodd erioed y fath beth. Da chwi, byddwch cyn fwyned a gyrru imi weithiau ambell Glogyrnach llithryg, neu ryw hên fesur mwyn arall allan o waith Gwalchmai, Cynddelw, Prydydd y Môch, neu'r cyffelyb; ac nid yw ludded mawr yn y byd i daro un (o'r lleiaf) ymhob Llythyr. You see I grumble not to write whole sheets full of Poetry, such as it is. Dymunaf arnoch, os medrwch, roi imi ryw faint o hanes Taliesin; pa beth ydoedd ef, ac yn enwedig pwy ydoedd Elphin, yr hwn y mae'n sôn am dano cyn fynyched? pwy hefyd oedd fy Nghâr Gronwy ddû o Fôn; ai yr un ydyw a Gronwy Ddů ap Tudur ap Heilyn? ac os nid è, pa'r un o