Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/88

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac er nad adwaenoch chwi mohono, etto, tra bo hoff gennych y Prydydd, chwi a hoffwch ei waith, ar ba destyn bynnag y bo. But let me tell you that whatever I have said of him does really and in strict truth fall short of doing justice to his character. He was one of the brightest patterns of all Christian Virtues (that were consistent with his Station in life, which was but a Gentleman Farmer) that ever adorned his Country. His strict probity, temperance, modesty & humanity, were singularly eminent and conspicuous. But above all, his charity to the Poor was particularly remarkable. Yn y blynyddoedd tostion hynny pan oedd yr ymborth cyn brinned a chyn ddrutted, hyd nad oedd yn gorfod ar lawer werthu eu gwelyau o danynt i brynnu lluniaeth, a phawb a feddai Yd yn ymryson am y druttaf a'r calettaf; yr oedd y pryd hynny Galon John Owen yn agored, cystal a'i ysguboriau, ac yn y Plas-yngGheidio y câi y rhan fwyaf o Dlodion Llŷn eu lluniaeth; yn enwedig y trueiniaid llymion gan Bysgodwyr Nefyn. Nid oedd yno ddim nag am ŷd, bid arian, bid peidio; talent os gallent pan lenwai Dduw y rhwydau; ac onid ê fal y dywedai ynteu, mi a'i clywais yn aml Doed a ddel rhaid i bob genau gael ymborth."—Ai ê meddwch nid oes gennych neb yn eich Cymdeithas onid chwi eich hun a fedr wneuthur ymadferth nag ystum yn y byd tuag at ddangos eich amcanion buddiol i'r Byd. Och! fi gresyndod mawr yw hynny! gwae fi na bawn yn eich mysg na chai fod arnoch ddim diffyg Ysgrifennydd na dim arall o fewn fy ngallu fi Ceisied yr Aelodau gwasgaredig o'ch Cymdeithas, eich cynnorthwyo orau gallont tuag at y tippyn Llyfryn hwnnw os oes modd. Rhoed Gwilym Cybi ei law i mewn am Lysiau Blodau Garddwriaeth, canys nid oes mo'i well am hynny. Rhoed Llywelyn ynteu ei ran am Hynafiaeth, Hanesion, ac Historiau, Philosophyddiaeth anianol, a'r cyffelyb, yr hyn bethau a ŵyr oddiwrthynt orau yn Ghymru (pe câi amser); ond nis gwn i ddim oddiwrthynt. Minnau ac (Ieuan Brydydd Hir agatfydd) a rôf fy nwy Hatling tuag at Farddoniaeth, Philology, a'r cyffelyb; a thros benn. hynny nid ymdderchafaf oblegid nas meddaf nag amser na Llyfrau cyfaddas i'r fath bethau. Wrth sôn am Lyfrau, diolch i chwi am eich cynnyg; ond nid Llyfrau Lladin a Groeg sy arnaf fi fwyaf eisiau, ond Llyfrau Cymraeg sef, Hên MSS, act