Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/97

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 29.

At RICHARD MORRIS.

WALTON, Eprill y 9d, 1754.

ANWYL SYR,

Nid wyf yn ammau nad ydych bellach yn tybio fy mod wedi marw yn gelain gegoer. Ac yn wir fe fu agos i'r peswch a'r pigyn a'm lladd. Nid wyf yn cofio weled ermoed gethinach a garwach Gauaf; nid yw'r Wlad oerllom yma ddim yn dygymmod â mi yn iawn; llawer clyttach Swydd y Mwythig. Dyma ddauddydd o Hîn wych yn ol yr amser o'r flwyddyn. Nid oes dim yn fy mlino cymaint a darfod i'r Pigyn brwnt a rhyw drafferthion eraill lestair imi yrru i chwi Ganiad erbyn Gwyl Ddewi; ni ddylai undyn, a ystyrio mor ansicer yw'n bywyd a'n hiechyd a'n hamser (yn enwedig y sawl a fo megis Gweinidog tan arall, fal 'rwyf fi) addaw dim yn sicer ac yn ddifeth i neb, oblegid na's gwyddom o'r naill awr i'r llall pa beth a ddigwydd i'n rhwystro. Yr oeddwn wedi dechreu Caniad i'r Tywysawg ar y mesur a elwir Gwawdodyn Hîr, ond nid orphennais onid tri phenill o honi, ac bellach yn anorphen y caiff fod tros byth am a wn i. Ni wiw genyf yrru y darn yna i chwi. I lately took a fancy to my old acquaintance Anacreon; & as he had some hand in teaching me Greek, I have endeavoured to teach him to talk a little Welsh & that in Metre too. Ode 47th "Hoff ar hên &c." Observe that there is but the very same number of Syllables, in the Welsh, as are in the Greek, & I think the Welsh Englyn Prost fully answers the scope & meaning of the Ode, & that in an almost verbatim Translation. The more I know of the Welsh Language, the more I love and admire it; & think in my heart, if we had some men, of genius and abilities, of my way of thinking, we should have no need to despair of seeing it in as flourishing a condition, as any other Antient or Modern.—Nid oes yma faint yn y byd o newydd gymmaint a marw Gwrach y caid Grôt ar ei hôl er marw'n ddiweddar ryw wrâdd O Wrachiod. Rwyf yn bur anesmwyth o eisiau clywed o Allt Fadawg; mi yrrais yno ddwy waith, ond nid oes dim atteb. Dyma gyd a'm bŷs o Lythyr o Gaer Gybi,