Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llywelyn Parri.djvu/12

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

at feddygon a chwacs, &c., os ydym i edrych am addysg i fod yn gall, ac am gynllun i'w ddilyn, mewn enghreifftiau fel hyn.

Mae dyddordeb y traethawd yn gynwysedig, gan mwyaf, yn yr arddull (style); amlyga yr awdwr fedrusrwydd mawr fel traethodwr ffraeth, syml, a difyrus; hynodir dechreu y traethawd a symlder a hyawdledd, ac ag awgrymiadau cynil a chall; desgrifir ymweliad y meddwyn a'i dy anghyfanedd, yn wych; ac y mae y cydymddyddan rhwng Dr. Jarman a Nathan Edward, yn dra difyrus, cywir, naturiol, ac addysgiadol. Mae y Novel yn meddu teilyngdod helaeth, er y dymunasid ef yn well mewn rhyw bethau.

3. "Samson." Tery i fewn i ganol y chwedl sef dydd priodas "Dafydd Domas" ei arwr, gydag Elen, &c. Cyfyd dyddordeb drwy hyn yn y cychwyniad. Plentyn ordderch neu fasdardd yw "Dafydd," wedi ei gynefino â chaledi a gwaith; yn anllythyrenog, ac yn dueddol at oferedd a meddwdod. Mae Elen yn un o ddosbarth mwy parchus, yn ferch tyddynwr cyfrifol, wedi cael dygiad crefyddol, &c. Ni ellir canmol ei chwaeth yn ffurfio undeb priodasol rhwng pleidiau mor anghymarus.

Prin y mae nodwedd yr arwr yn cael ei gadw i fyny yn gyson; ymddengys ei ymson unigeddol yn ymyl y nant yn y cwm yn rhy goeth a chaboledig, i gyfateb i'w nodwedd anllythyrenog ef; ac nid oes dim dangosiad pwy oedd yn ei glywed, i ail-adrodd ei hunan-ymddyddan.

Mae ei araeth ddirwestol ar y ci a'r gâth, yn fwy cyson â'i erwindeb diaddurn a diddysg; ond cynnrychiolir