drwyddi, chwaeth rhy isel mewn torf o ddirwestwyr yn ei derbyn gyda 'r fath gymeradwyaeth—traethiad yr hanesydd yn hytrach na gweithrediadau y pleidiau eu hunain sydd yn gwneyd i fyny lawer o'r cymeriadau yn y Novel hwn. Mae y cyfansoddiad yma eto yn adlewyrchu llawer o dalent a dawn awdurol; yr iaith yn gywir a phoblogaidd, er efallai y dichon fod ychydig o chwithigrwydd mewn ambell i air a brawddeg, o leiaf i Ogleddwyr.
Nid ydys yn boddloni yn dda ar yr arwr; y mae yn rhy isel ei radd yn hytrach, fel dyn anllythyrenog, ofergoelus, ac anwybodus, i fod yn enghraifft deg o'r werin GYMREIG; ond dylid cydnabod fod yr awdwr yn un o alluoedd teilwng ac amcanus.
4. "Ab Neptune." Lleoliaeth y Novel yw Dyffryn Towy, sir Gaerfyrddin; a rhoddir desgrifiad erchyll o arferion meddwol crefyddwyr ac anghrefyddwyr y parthau hyny. Yr arwr yw "William Morgan." Byddai rhieni William yn arfer derbyn pregethwyr i'w tŷ, y rhai a fyddent yn yfed, rai o honynt, hyd feddwdod, a thrwyddynt hwy llithiwyd William yn blentyn at y ddïod gref; un o'r prif ymwelwyr a'r teulu oedd Mr. Evans, gweinidog Eglwys Gilgal, yr hwn oedd ddyn sobr unwaith, ond wrth yfed yn nhai yr aelodau, ac yn y tŷ hwn, yn enwedig, troes yn feddwyn, a chafodd ei ysgymuno. Mewn cwrw bach yn nhŷ diacon Gilgal, nos Sadwrn o flaen Sul cymundeb yr ymollyngodd William bach i feddwi gyntaf: bu llawer treigl ar ein harwr wedi hyny, mewn tafarn ac eglwys; ond troes yn ddirwestwr yn y diwedd, a gorphenodd ei yrfa yn ddefnyddiol a dedwydd.
Mae y traethawd yn un helaeth iawn, ac yn waith awdwr galluog iawn, yn meddu digon o adnoddau medd-