Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llywelyn Parri.djvu/122

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a thalent dra dysglaer. Gwnaeth ei hymddangosiad hanner-angelaidd yr olwg, a'i dull di-ail o fyned trwy ei chyfran, effaith dwfn ar feddwl Llewelyn. Curai a bloeddiai o gymeradwyaeth iddi'n uwch na neb. Tybiodd ddarfod iddo ddwyn ei sylw hi, ac ymwenieithodd iddo 'i hun ei bod wedi edrych arno gyda thynerwch fwy nag unwaith, ac wedi ei anrhydeddu a'i gwên. Gosododd hyny ei ymenydd ar dân—derbyn edrychiad caredig a gwén serchog gan y fath fenyw! Gormod—gormod!

Aeth y chwareuyddiaeth drosodd hwyliodd pawb ymaith—rhai tua chartref ac eraill i ymfoethi mewn pleser a phechod. Ond y chwareuyddes oedd ar feddwl Llewelyn Parri, ac ar ei hol hi y penderfynodd ef fyned!

A goelia fy nghydwladwyr hyn am Gymro? penderfynodd Llewelyu y mynai wybod yn mha le yr oedd y witch yn byw, ac y mynai hefyd gael tywallt ei galon ger ei bron! Gwyliodd hi yn myned adref—gwelodd hi yn llogi cerbyd, a llogodd yntau'r nesaf at hwnw mewn mynyd, gan orchymyn i'r gyrwr ddilyn y cerbyd arall i ba le bynag yr elai!

Pan gyrhaeddasant yr heol lle y trigai hi, ac i'r ddau gerbyd sefyll, rhedodd y llanc gwirion ati, pan oedd ar fedr agor drws ei thy, gyda'r bwriad o siarad â hi. Ond y foment y gwelodd ei hun yn sefyll o'i blaen, diflannodd ei wroldeb—ni wyddai beth i'w wneyd; a thra'n ymgolli mewn dyryswch—hi a aeth i mewn gan feddwl mai rhyw ddyn gwallgof oedd Llewelyn.

Yr ydym, tra yn ysgrifenu ei hanes y noson hon, braidd a myned i natur ddrwg wrth feddwl am ei ynfydrwydd ac ni fuasem yn gallu casglu digon o amynedd i gofnodi ei ffolineb, oni ba'i ein bod yn gwybod mai nid efe yw'r unig Gymro—na Sais chwaith, dai fater—a gafodd ei yru o'i hwyl dan effaith diod a chwareuyddiaethau Llundain. Ac er mwyn rhoddi gwers i Gymry ieuainc a ddygwyddant fyned i'r trefydd mawrion, yr ydym yn myned trwy y rhan yma o hanes bywyd ein harwr.

Do, ddarllenydd, fe ddyryswyd cymaint ar ymenydd Llewelyn Parri, gan y ddynes yma, nes y bu iddo fod yn ddigon o ffwl (maddeuer i ni am alw ein harwr felly hefyd—dichon nad yw'n oddefol nac yn rheolaidd) i gerdded yn ol ac yn mlaen o gwmpas drws ei thŷ, tan chwech o'r gloch boreu dranoeth. Teimlai ei hun fel wedi ei drawsblanu yn y fan honno. Ymdrechai sefyll weithiau ar yr un llecyn ag y gwelodd ef hi yn sefyll arno ddiweddaf—ysbiai trwy'r ffenestri, gan ddychymygu ei bod yn edrych arno o dan