Yn y dyddiau hyny, yr oedd etholiad cyffredinol yn cynhyrfu'r holl deyrnas. Gŵyr pawb fel y mae'r etholiadau wedi bod yn achlysuron i yru miloedd o ddynion i feddwi. Y cyffro a achosir gan y brwydrau pleidleisioly siomedigaeth a deimlir gan y blaid a gyll y dydd, a'r Ilawenydd a deimla'r un fuddygol—y diodydd meddwol a gyfrenir (neu a gyfrenid, o leiaf) gyda'r fath helaethrwydd —y ciniawau a'r swperi a rydd yr ymgeiswyr i'w cyfeillion a'u pleidwyr, a lluoedd o bethau eraill, ydynt wedi bod yn achosion i dorfeydd o ddynion cymedrol droi'n feddwon.
Yr oedd y frwydr etholiadol yn debyg o fod yn un boeth anghyffredin trwy sir Gaernarfon, yr adeg honno, yn enwedig o gwmpas trefydd B
a C Cafwyd ar ddeall fod dau foneddwr cyfoethog a phoblogaidd dros ben, yn bwriadu tynu'r dorch yn erbyn eu gilydd; a mawr fu ymdrechion pob un o'r ddwy blaid i sicrhau cymaint ag oedd modd o ddylanwad, cyfoeth, talent, a gwybodaeth o'u hochr.Edrycha i'r blaid dros ba un yr addawodd Llewelyn Parri ei lais a'i ddylanwad, ato ef gyda rhag ddysgwyliadau awchus a gwresog. Gwyddent am ei boblogrwydd, am ei gysylltiadau parchus, ei fywiogrwydd, ei hyawdledd, a'i gyfoeth; a gwnaent eu goreu i gael ganddo ymarfer pob mantais yn ei feddiant i hyrwyddo eu hachos, a'i gael i ddyben llwyddiannus.
Dydd yr etholiad a ddaeth. Hwyliai Llewelyn Parri ei hun i fyned i'r dref. Curai calon ei wraig mewn pryder, rhag ofn y byddai i'r cyffro achosi iddo yfed gormod. Pan oedd yn cychwyn, bu braidd iddi ei gynghori i gadw glir oddiwrth gwrw a gwirod, oni b'ai iddi ofni drachefn y buasai gocheliad felly yn sarad arno, ac yn dangos iddo ef gyn lleied ffydd oedd ganddi yn ei gwr. O ganlyniad, ni ddywedodd ddim heblaw gofyn tua pha bryd y deuai ef adref.
"Byddaf yma erbyn amser tê,'nghariad i," ebe Llewelyn, gan gusanu'r wraig a'r plentyn.
"O'r goreu, fy anwylyd," ebe hithau; "mi a barotoaf ddysgleidan bur dda o dê i chwi, gyda theisen flasus.
Boreu da, was; cym
." Bu agos iddi ddweyd wrtho am gymeryd gofal o hono 'i hun wedi hyny; ond fe ddiflannodd y gair ar ei gwefus cyn cael ei adrodd.Yr oedd heolydd y dref yn orlawn o bobl o bob cwr a chongl o'r wlad. Dechreuodd y frwydr fawr. Esgynodd y pleidiau yr esgynlawr parotoedig, a cheisiodd amryw areithio; ond nid oedd modd braidd clywed yr un gair,