Byw areithydd y Brython,—a siriol
Cicero gwlad Arfon;
Daeth o'i wrol, freiniol fron,
Ddylifedd ail i afon.
Tynwyd Llewelyn Parri, braidd yn ddiarwybod iddo 'i hun, i yfed. Yr oedd moesau da yn galw am iddo ddychwelyd diolchgarwch am y dull gwresog y cynygiwyd ac yr yfwyd ei iechyd da; a chynygiodd yntau mewn addaliad, iechyd y cadeirydd.
Yfwyd dwsin neu ddau o lwncdestunau—canwyd amryw ganiadau a cherddi—traddodwyd anerchiadau, ac ni ymwasgarodd y cwmpeini hyd nes oedd yn ddeg o'r gloch y nos.
Y fynyd gyntaf yr aeth Llewelyn allan i'r gwynt, teimlodd ei fod yn analluog i sefyll ar ei draed—yr oedd wedi meddwi. Oferedd oedd iddo feddwl am farchogaeth adref yn y cyflwr hwnw; ac o ganlyniad, nid oedd dim i'w wneyd ond troi yn ol i'r dafarn, a threulio'r noson honno yno.
Pa fodd yr ymdeimlai Morfudd Parri yr holl amser yma? Druan o honi!
Dysgwyliodd yn bryderus am amser te; a phan ddaeth, nid oedd yr un gŵr wedi dyfod! Clywodd yr awrlais yn taraw chwech—saith—wyth, heb i'w gŵr ddychwelyd o'r "lecsiwn." Dechreuodd calon Morfudd guro mewn pryder am ddychweliad ei gŵr am y tro cyntaf ar ol priodi. Teimlai fel pe buasai gwmwl du, llawn taranfolltau, yn codi uwch ei phen, a'i bod hithau a'i phlentyn wedi eu tynghedu i gyfarfod a thymestl arswydus. Er hyny, ceisiai goleddu'r dysgwyliadau goreu am ei gwr. Tybiai fod rhyw fater o bwys, nad oedd modd ei ochelyd, wedi ei gadw rhag dychwelyd gartref mewn amser—nad oedd bosibl ei fod wedi anghofio cymaint am brïod ei fynwes plentyn ei serch—amgylchiadau ei dŷ a'i dylwyth, fel ag i ymollwng i ganlyn unrhyw demtasiwn a'i cadwai oddi cartref yn wirfoddol. Tybiai mai rhaid oedd yn ei gadw'n hwyr heb ddyfod gartref, ag y dychwelai gyn gynted ag fa'i modd, fel dyn.
Ond ah! mor chwannog i gael ein siomi ydym yn ein dysgwyliadau goreu! Treiglai'r oriau yn mlaen mor arafaidd yn ngolwg Mrs. Parri a phe buasent gynifer o flynyddau; ac edrychai'r noson honno gyhyd yn ei golwg a rhyw dragywyddoldeb o ran parâd! Arhosodd ar ei thraed trwy'r nos i ddysgwyl ei gwr; ond dysgwyl gafodd hi—ni ddaeth yno'r un Llewelyn Parri'r noson honno.