hyfryd rhinwedd a sobrwydd cadwn ein traed o fewn llwybrau Dirwest, ac felly gallwn roddi her i'r byd i'n cael mwyach allan o honynt. Oh, Feddwdod, cawsom wers galed genyt; ond hyderaf ar Dduw iddi fod yn effeithiol i gael genym oll weled dymunoldeb llwyrymwrthod â'r dïodydd sy'n achosi dystryw i'r corph a damnedigaeth i'r enaid!"
Dyrchafwyd bloedd o gymeradwyaeth wrth i'r Meddwyn Diwygiedig eistedd i lawr. Ei araeth ef oedd yr olaf yn y cyfarfod; a chyn gynted ag y dangoswyd llyfr yr ardystiad, gwelwyd torf yn ymwthio yn mlaen, ac yn ymryson —am roddi eu henwau i lawr.
PENNOD XXII.
Un boreu, pan oedd Llewelyn Parri yn eistedd wrth ei ysgrifgist yn y swyddfa, daeth y nodyn canlynol i'w law:—
"ANWYL LEWELYN PARRI.—Mae'n dda genyf glywed am dy ddiwygiad, a gobeithio y bydd i ti barâu'n sobr o hyn allan. Dymunwn gael dy weled: y mae yma rywbeth ag a wna i ti synu a rhyfeddu. Tyred yma amser ciniaw.
Dy hen warcheidwad ffyddlon, EVAN POWEL."
"Dear me!" ebe Llewelyn, wrtho 'i hun, "wyddwn i ddim bod yr hen fachgen wedi dyfod adref. A pha beth sydd ganddo i'm synu? Pa beth a ddaeth o Gwen, tybed? Nis gallaf aros tan amser ciniaw; gofynaf ganiatâd i fyned yno'r mynyd yma."
Yr oedd meistr Llewelyn yn falch rhoi caniatâd iddo fyned. Ar ei fynediad i dŷ Mr. Powel, gafaelodd yr hen wr yn ei law yn garedig, a gwasgodd hi fel y gwnelai yn yr hen amser gynt; ond neidiodd Mrs. Powel ato gan ei gofleidio fel pe buasai blentyn, a'i gusanu.
"Beth am Gwen?" gofynai Llewelyn, heb feddu amynedd i son am ddim arall.
Torodd yr hen ŵr a'r hen wraig i wylo, ond nid oedd y wylo yr un mor dorcalonus ag y buasai Llewelyn yn dysgwyl.
"A yw hi wedi marw?" gofynai drachefn.
"Rhoddodd y bedd i fyny ei farw!" ebe Mr. Powel. "Bu'n gorwedd yn Mharis ar ddibyn trancedigaeth am ddyddiau lawer ar ol i mi fyned yno, ac ofnwn na chawn byth mo'i gweled yn dangos yr un arwydd fywyd. Ond byw yw hi—mae hi'n gwella—mae hi wedi dychwelyd—mae hi yma!" meddai, gan agor drws ystafell oedd yn ochr y parlwr.
"Oh, fy Ngwen anwyl!" meddai Llewelyn wrth ei