plant—gyrais fam dduwiol i'r bedd mewn gofid, ac y mae genyf chwaer yn awr nad wyr neb pa un ai byw ai marw a wna o herwydd iddi ddyoddef oddi wrth feddwdod ei brawd—Llewelyn Parri. Duw yn unig a ŵyr pa mor bell yn ffyrdd pechod yr aethym. Torwyd y naill ar ol y llall, llinynau tyneraf cyfeillgarwch, y rhai a arferent fy rhwymo wrth y byd, ac a wnelent fywyd yn felus i mi,—aeth fy enw yn ogan a gwawd i blant y dref, a bum yn frychyn o'r math duaf ar gymeriad dynoliaeth. Buaswn yn aberthu byd er mwyn gallu dileu o goffadwriaeth yr holl bechodau a gyflawnais yn ngwallgofrwydd fy meddwdod. Ond gobeithio eu bod wedi cael eu dileu o lyfrau'r nef. Yr wyf yn edifarhau am yr hyn a wnaethum, ac yn penderfynu gwneyd iawn am fy muchedd flaenorol (sef iawn i ddynion, nid i Dduw), trwy fyw yn sobr rhagllaw. Mi a ymddarostyngaf mewn dystawrwydd dan law y nef, gan wneyd fy nyledswydd i Dduw a dyn. Cenais yn iach am byth i gwmpeini drwg—i gymedroldeb—i feddwdod—i chwareudai—i dafarnau o bob math—am byth—byth! Yr wyf o hyn allan am fod yn ddyn! Allan o'i bedd hirfaith mi a lusgais fy nghalon, ac y mae cariad wedi ail-ymorseddu o'i mewn. Tyngais na chyfhyrddwn a'r cwpan angeuol byth mwy; ac yn fy nghalon nid oes dwyll. Ni chaiff fy ngwraig a'm plant ddyoddef mwyach am bechodau na fu iddynt hwy eu cyflawni Hwy a ddyoddefasant ormod o lawer, fel y gwyddoch chwi o'r goreu. Ac y mae yma rai eraill hefyd wedi, ac yn dyoddef—mi a'ch adwaen. Wŷr meddwon, trowch o'ch cwmpas, ac edrychwch ar eich anwyl rai yn haner trengu o eisiau. Gwnewch fel y gwnaethum i—cofleidiwch Ddirwest. Peidiwch gwneyd ffyliaid o honoch eich hunain yn ddim hwy. Buom yn ffyliaid ddigon o hyd hefo'n gilydd. Gwnaethom gam â'n cyrph, â'n hamgylchiadau bydol, â'n hiechyd, ac iechyd ein teuluoedd,—llygrasom ein meddyliau, ein moesau, ein teimladau, buom anffyddlon i Nefoedd a daear, a chawsom ddyoddef o'i herwydd. Ond boed y nefoedd yn dyst, na cherddaf fi byth mwy mo'r llwybrau dreiniog. Cyfarfyddais â dreigiau ynddynt ag a fuont yn bur agos i'm llyncu am byth, ond wele byw ydwyf. Daethum allan o ogof danllyd Etna, wedi fy ysgaldio'n ddychrynllyd gan ei lava, ond heb fy llwyr ddyfetha. Ni wel neb byth eto mo Llewelyn Parri yn dringo ochrau mynydd tanllyd, nac yn syrthio i'r pwll brwmstanaidd o feddwdod. Peidiwch chwithau hefyd a myned. Dychwelwch gyda mi i ddyffryn edifeirwch, a cherddwn gyda'n gilydd ar hyd dolydd
Tudalen:Llywelyn Parri.djvu/155
Gwedd