Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llywelyn Parri.djvu/158

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddwy flynedd. Yn mis Rhagfyr o'r eilfed flwyddyn o'i fywyd dirwestol, a'i wasanaeth gyda Mr. Pugh (enw ei feistr), gwnaethpwyd i fynu gyfrifon y sefydliad, er mwyn gweled pa fodd yr oedd pethau yn sefyll. Er mawr lawenydd y meistr a'i was, canfyddwyd fod y busnes, yn ystod y ddwy flynedd ddiweddaf, wedi troi mwy o arian nag y gwnaeth yn ystod y pum' mlynedd blaenorol, a phriodolai Mr. Pugh y llwyddiant yma i ofal, ymroddiad, a hwylusdod Llewelyn. Er mwyn gwobrwyo 'i ymddygiadau rhagorol, efe â'i hanrhegodd â haner cant o bunnau, yn ychwanegol at ei gyflog wythnosol. Chwyddodd mynwes ein harwr wrth dderbyn yr archeb ar yr ariandy am y swm mawr hwn, a rhuthrodd meddylddrych newydd i'w ben.

Yn lle myned adref rhag ei flaen y prydnawn hwnw, efe a aeth at dy Cadben Morris, oedd yn byw yn ymyl y y dref. Eisteddai Cadben Morris yn ei barlwr cysurus a chynhes, gan ddarllen papyr newydd. Daeth y forwyn i fewn gan ddweyd fod Llewelyn Parri, y dyn oedd yn byw yn Brynhyfryd ychydig flynyddoedd yn ol, wrth y drws yn dymuno ei weled ef.

"Dywed wrtho am ddyfod i fewn," meddai'r meistr. "Mae'n dda genyf eich gweled yn dyfod yma fel dyn, Mr. Parri," meddai'r Cadben pan aeth Llewelyn i'r ystafell.

"Ha!" ebe Llewelyn, "mi boenais ddigon arnoch amser yn ol, am arian ac elusen, ond yr wyf yn hyderu na raid i mi mo'ch poeni byth ar ol heddyw, ond y bydd fy oes rhagllaw yn cael ei dwyn yn mlaen fel ag i fod yn anrhydedd i bob un a wnaeth garedigrwydd i mi — yn anrhydedd i mi fy hun—ac yn wasanaethgar i achos crefydd a moesoldeb."

"Wel, mi all dyn fel y chwi fod o ryw les i'r byd trwy droi i fod yn sobr, Mr. Parri."

"Ond," meddai Llewelyn, "mi ddaethum yma heddyw'r prydnawn ar neges bwysig iawn."

"Pa beth yw?"

"Wel, y mae arnaf braidd ofn ei dweyd; ond waeth hyny nag ychwaneg—dyfod yma a ddarfu i mi i ofyn a fedrech chwi osod y fferm i mi—y Brynhyfryd, fy hen gartrefle!" " Y mae hyna'n gam mawr, Mr. Parri. Ond, pe bawn yn ei gosod, pwy a dâl yr ardreth?"

"Y fi!" meddai Llewelyn yn benderfynol.

"A ydych chwi mewn gwaith da?"

"Ydwyf—ac wedi derbyn cyflog go lew hefyd."

"Wel, oni feddyliech chwi y byddai'n well i chwi fod