Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llywelyn Parri.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

edrych sut y mae pethau yn myned yn mlaen ar hyd y caeau; dos dithau fel y dywedais."

"O'r gore," cydsyniai Ifan, a ffwrdd a'r ddau, un rhyngddo a Brynhyfryd, a'r llall i lawr y rhos. Yr oedd y ddau yn llawn myfyr yn awr. Cydmharai Ifan Llwyd ei sefyllfa druenus ei hun â golwg iach a hapus Llewelyn Parri, yr hwn oedd, ychydig flynyddoedd yn ol, yn îs ei amgylchiadau nag ef, ond sydd yn awr wedi gadael ffyrdd dinystriol meddwdod, a chofleidio dirwestiaeth; ac felly, sicrhau iddo ei hun lwyddiant, cysur, a dedwyddwch. Tra yr oedd Llewelyn yn myned allan o gwmpas ei feusydd, gan fwynhau ceinion a swynion anian haelionus, yr oedd ef yn analluog braidd i roddi'r naill droed heibio'r llall; ac yr oedd cyneddfau ardderchocaf ei gorph a'i enaid wedi eu dirywio gymaint gan ei feddwdod, fel ag i wneyd hyfrydion y greadigaeth ymddangos iddo ef, druan, fel cynnifer o weinyddion anghysur, dychryn a gwae. Ystyriai ei hunan yn fath o ddiafl mewn cydmariaeth i bethau o'i gylch; a thybiai fod pob creadur yn ysgwyd pen ac yn ysgyrnygu dannedd arno ef. Dychymygai nad oedd cân y fronfraith yn ddim amgen na cherdd ogan am dano ef; a chredai mai adsain gwae o'i herwydd oedd brefiad yr oen bach o'r nant gerllaw. Yr oedd cwrw a gwirod wedi ei ddyrysu; ac yr oedd ei syched a'i awydd am ychwaneg yn awr yn angerddol.

Yr oedd Llewelyn Parri hefyd yn boddi yn awr mewn myfyrion dwys. Rhuthrai i'w gof ei oferedd gynt—yr arian a'r amser gwerthfawr a wariodd yn nghyfeillach Ifan Llwyd ddyddiau a aethant heibio. Llenwid ei feddwl â dychryn wrth adgofio am y llwybrau a gerddodd—y gweithredoedd a gyflawnodd—y calonau a haner-dorodd, os nad mwy na hyny—y gŵg a dynodd ar ei ben ei hun a'i deulu oddiwrth nefoedd a daear, dynion a Duw, ac mor agos a fu i fyned yn ysglyfaeth tragywyddol i Feddwdod. Yr oedd ei gydwybod hefyd yn ei ledgyhuddo o fod ganddo ef law yn nadfeiliad presenol dedwyddwch, eiddo, iechyd, corph ac enaid Ifan Llwyd; o herwydd yr oedd y ddau wedi yfed llawer chwart o ddiod y felldith hefo 'u gilydd; ac, efallai, mai'r chwart diweddaf hwnw a yfasant yn y Castle Inn, a fu y prif achos o gyneu tân yn mynwes Ifan druan, nad allodd y galwyni a yfodd ar ol hyny mo'i ddiffodd, a'r hwn oedd yn ymddangos fel yn myned ar gynydd fwy-fwy, hyd nes yr oedd wedi gwneyd y dyn a ystyrid yn un o flodau'r gymydogaeth o ran harddwch, arabedd, talent, a challineb, yn awr yn ddychryn y di-