niweid, yn wrthddrych tosturi y rhinweddol, ac yn ellyll i'w berthynasau.
"Mi fum inau llawn gyn waethed ag yntau," ymsoniai Llewelyn Parri. "Bum yn feddwyn. Gwn beth yw teimlad uffernaidd Ifan y mynyd yma; ac os yw ef yn rhywbeth tebyg i fel y byddwn i dan effaith diod, ro 'wn i mo 'ngair na wnai ef y pethau mwyaf echryslon ag y gallai ei ymenydd dyryslyd a chynhyrfiedig eu dyfeisio er mwyn cyrhaedd dafn o'r ddiod ag y mae taflod ei enau fel ffwrnes o'i heisiau. "Minau braidd na lithrodd fy nhroed; braidd na thripiodd fy ngherddediad,' meddai; "ïe'n wir, mi a lithrais filwaith; ond, trwy drugaredd, wele fi eto 'n ddyn. Os bum yn feddwyn, yr wyf yn awr yn feddwyn diwygiedig; ac yn hytrach nag ymddwyn yn galed at y sawl sydd heb fod mor ffodus a mi, trwy adael eu ffyrdd ddrwg, rhaid i mi estyn llaw ymwared iddynt, ac ymdrechu eu gosod ar lwybr, ag a'u harwain hwythau i'r sefyllfa ag y mae digonolrwydd llawenydd i'w chael ynddi."
Erbyn hyn, yr oedd Llewelyn wedi cyrhaedd y cae pellaf. Braidd yr oedd yn clywed cathlau hyfryd y corau adeiniog o'i gylch, na swn y ffrydlif ddisglaer oedd yn treiglo wrth ei droed, gan faint y dyddordeb a achosodd ymddangosiad ei hen gyfaill yn ei feddwl. Ac wedi iddo fod yn cerdded oddi amgylch am ddwy awr, clywodd y corn yn galw arno ef a'r llanciau i gael boreufwyd, a phrysurodd ei gamrau tuag adref drachefn.
Erioed ni thywynodd haul melyn haf ar le hyfrytach nag oedd Brynhyfryd, cartref Llewelyn Parri, y pryd hwn. safai ar lethr dlos, yn cael ei hamgylchu gan ddôl fechan, wrth gefn pa un yr oedd mynyddau cribog Arfon. Ymddangosai'r lle megis rhyw adlewyrchiad o'r hyn a ddychymyga bardd am Baradwys Ddaearol. Mor beraidd oedd sain yr adar ar y gwrych ac yn yr ardd, y rhai oeddynt
"Ag eofndra ysgafndroed
Yn chwarau rhwng cangau'r coed!"
Mor hyfryd, oedd yr alawon a chwareuai'r awel ar organau y goedfron! Mor ddifyr oedd twrf prysurdeb y dref yn cael ei dreiglo gan gerig ateb y bryn!-Mor hyfryd oedd
***llef yr arydd ar y twyn
Yn ateb cân y laethferch wridog, fwyn;
Y gwartheg ar eu lloi a bref di fraw:
*****
Y gwyddau 'n clegar ar yr asur lyn;
Yr ysgol-blant yn chwareu dan y bryn;
*****