Y chwarddiad uchel, arwydd ysgafn fryd,
Gan wŷr y llan, na flinai gofal byd!"
Ond nid y tu allan yn unig i dŷ Llewelyn Parri oedd yn hyfryd. Yr oedd dedwyddwch wedi ail osod ei gorsedd oddifewn. Mae 'n wir ddarfod iddi fod yn ddieithres yno 'n hir, pan oedd Llewelyn yn feddwyn. Ond gyn gynted ag y cafwyd cwbl brawf o sobrwydd llwyrymwrthodol ein harwr, a'i fod wedi cwbl adael ei hen lwybrau gynt, fe ail wenodd dedwyddwch yn ei dŷ; ac yr oedd ei anedd yn awr yn arlun teg o'r dylanwad sydd gan Ddirwest ar amgylchiadau teuluaidd dynion.
"Dychymyg hoff i'm bryd y sydd yn dwyn
Y dodrefn gwych addurnai'r parlawr mwyn,
Y muriau gwyn, y llawr tywodlyd tlws;
Yr awrlais destl a'i dingc wrth gefn y drws,
*****
Y lluniau ar y pared gwych a glân,
A'r diddan gamp-reolau gylch y tân;
Ac yn yr haf, yr aelwyd oedd mor hardd,
Gan frigau gwyrdd a blodau teg yr ardd."
Yr oedd yn awr yn amser boreufwyd. Golygfa hardd yw gweled tylwyth yn nesâu at bryd bwyd, gyda chyrph iachus, meddyliau ysgeifn, calonau diolchgar, a chariad yn llywodraethu pob bron! Dyna fel yr oedd hi yn Mrynhyfryd y bore hwn.
Ond yr oedd Morfudd Parri yn meddwl fod rhywbeth nad oedd yn iawn ar wynebpryd ac agwedd gyffredinol ei gwr. Yr oedd arwydd cyffro ar ei rudd; ac edrychai fel pe yn ymgolli 'n fynych mewn meddyliau dwys. Barnai Morfudd yn gywir hefyd. O ran hyny, beth sydd mewn ymddygiad dyn na's gall merch ei ddarllen? Y mae'r cyfnewidiad lleiaf ar wynebpryd yr hwn a gara hi, yn sicr o gael ei ganfod gan fenyw garuaidd. Nid oes yr un linell nad yw 'n gydnabyddus â hi; ac y mae'r arwydd lleiaf o bryder ac anesmwythid yn sicr o dderbyn cydymdeimlad yn ei chalon hi.
Ond cadwodd Morfudd ei darganfyddiad iddi ei hun. Pa fodd bynag, ar ol i'r boreufwyd fyned trosodd, ac i'n harwr dalu diolchgarwch i Roddwr pob daioni drosto 'i hun a'r hyn oll oedd eiddo, ac i'r gweinidogion fyned o amgylch eu dyledswyddau, gofynodd Llewelyn pa fodd yr oedd Ifan Llwyd erbyn hyn.
"Ifan Llwyd!" meddai'r wraig, gyd â gradd o syndod. "Ië. Ai ni ddaeth Ifan Llwyd, y dyn hwnw y byddech yn crefu cymaint arnaf beidio ei ganlyn pan yn ngwallgofrwydd fy meddwdod, yma tua dwy awr yn ol ?"