"Naddo'n wir," atebai Morfudd. " A ydyw yntau hefyd wedi troi'n feddwyn diwygiedig? Byddai'n dda genyf ei weled yn awr ynte, os oedd yr olwg arno o'r blaen yn anfon y fath iasau o ddychryn, arswyd, a ffieidd-dod trwy fy mynwes."
"Na, na, Morfudd bach, yr oedd yr olwg ar Ifan yn waeth heddyw nag erioed. Gwelsoch chwi a minau ef yn ngraddau eithaf meddwdod lawer gwaith o'r blaen, ond erioed ni's gwelais ef yn edrych mor ellyllaidd a heddyw!" "O, Llewelyn! gwyddoch o'r goreu fel y byddwn yn suddo mewn gofid a phryder bob tro y gwelwn chwi yn ei gwmpeini; a pha beth a allai eich cymhell i'w wahodd yma heddyw eto?" gofynai Morfudd yn dyner.
"Tosturi,'ngeneth i—tosturi dros un y bu genyf fi fy hun law yn ei ddwyn i'r cyflwr y mae ef ynddo yn awr. Gwahoddais ef yma heddyw gyda'r bwriad o wneyd rhywbeth ar ei ran, a'i waredu o faglau distryw bythol."
"Wel, wel, "ychwanegai Morfudd," os oes un ddynes ar wyneb y ddaear a ddylai gydymdeimlo â'r cyfryw fwriad, y fi yw hono. Yr wyf fi yn gwybod beth ydyw bendithion tröedigaeth a diwygiad, ac yr wyf yn ceisio diolch i Dduw am ddwyn y fath beth o gwmpas, a'n gwaredu fel teulu o grafanc y gelyn; a'r peth lleiaf a allwn wneyd fyddai ceisio bod yn fath o angel ymwared i ryw greadur anffodus sydd yn awr yn digwydd bod yn yr un pwll ag y bu fy anwyl Lewelyn ynddo cyn gwybod beth oedd rhagoriaethau llwyrymwrthodiad. Ond yn mha le y mae Ifan Llwyd, tybed?"
"Ah! druan o hono," meddai Llewelyn, gyd â theimlad dwys; "digon tebyg fod ei gywilydd wedi myned yn drech na'i benderfyniad, a'i fod, yn hytrach na dyfod yma, i orfod edrych ar y fath wrthgyferbyniad yn sefyllfa meddwyn diwygiedig, a meddwyn dirywiedig, un ai yn loetran o gwmpas y caeau yna, neu wedi myned i dafarn Ty'n-ycoed, i grefu am ychwaneg o'r gwenwyn a'i dygodd i'r cyflwr y mae ynddo."
"Yn wir," meddai Morfudd, drachefn, "oni bai fy mod wedi gwneyd llw na edrychwn i fy hun, ac y ceisiwn eich parswadio chwithau i beidio byth ac edrych, ar y dafarn yna mwyach—tra bo'n dafarn—mi fuaswn yn gofyn i chwi fyned i chwilio am dano, a'i ddwyn yma.'
"Yr wyf finau hefyd, fel y gwyddoch, wedi gwneyd ammod annhoradwy nad awn byth dros orddrws tafarn ond hyny: ac yn wir, pe bawn yn gwybod mai yno y mae Ifan, byddai mor anobeithiol ceisio ei ddenu oddi yno tra