cysurus; gwraig rinweddol, a phlant prydferth, iach a bywiog; amgylchiadau llwyddiannus; a'r cyfan yn cael eu coroni â gwenau rhagluniaeth y nef.
Ond, fel yr awgrymwyd eisoes, y mae ein harwr wedi gweled pethau gwahanol. Gŵyr beth yw bod yn feddwyn; teimlodd ganlyniadau meddwdod yn ei holl amrywiaeth a'i erchylldod; bu'n gaeth yn ei gadwynau uffernol am flynoedd lawer; ac er ceisio lawer gwaith, yn oes cymedroldeb, bod yn well dyn, waeth-waeth yr oedd yn myned yn barhaus, nes o'r braidd y bu iddo syrthio yn ysglyfaeth bythol i grafangau'r gelyn. Ond pan wedi myned i'r i'r eithafion hwnw, fe ddaeth DIRWEST i'r ardal lle yr ydoedd yn byw; ac ar ol llawer o gloffi rhwng dau feddwl, fe ddaeth Llewelyn Parri i weled nad oedd dim tu yma i lwyrymwrthodiad a'i cadwai ef rhag syrthio ei hun, a llusgo ei deulu i'w ganlyn, i warth, gwaradwydd, a thrueni tragwyddol. Felly fe ardystiodd lwyrymwrthodiad oddiwrth bob math o ddïodydd meddwol. Ond rhaid i ni yn awr erfyn ar y darllenydd ddyfod gyda ni i gyfnod o hanner can'mlwydd yn ol, pan oedd Llewelyn Parri yn fachgenyn tlws, gwridog, swynol, a gobeithiol, a'i ddilyn trwy ei yrfa ddyddorol, a thaflu adolygiad ar ei gysylltiadau boreuol.
Ganwyd a magwyd Llewelyn Parri mewn tref flodeuog yn Ngogledd Cymru, ar lan afon brydferth, yn nghanol hyfrydion a rhyfeddodau prydferthaf anian garedig. Yr oedd o deulu parchus a dylanwadol. Dyn oedd ei dad ag a welodd "lawer tro ar fyd;" ond trwy dalent gref, addysg well nag oedd gan y cyffredin o'i gyfoedion, diwydrwydd difefl, ac iechyd da am flynyddoedd, efe a ddaeth o sefyllfa isel gwasanaeth, i afael cyfoeth mawr; a bu yn cael ei ystyried y marsiandwr cyfoethocaf a mwyaf llwyddiannus yn M——, am lawer o flynyddoedd.
Rhaid i'r darllenydd gofio hefyd nad oedd dim gair o son am y fath beth a llwyrymwrthodiad yr adeg hwnw. Y rhinwedd penaf ar ddyn oedd bod yn gymedrol; a dyn cymedrol oedd Mr. Meredydd Parri, tad ein harwr.
Yr oedd ei sefyllfa yn y byd yn ei osod dan anghenrheidrwydd i ffurfio llawer o gyfeillachau, a hyny gyda'r dosbarth uchaf yn gystal a'r canol a'r ıselradd. Byddai ei dŷ hardd, yr hwn a safai yn un o brif heolydd B——, yn fynych iawn yn cael ei lenwi â gwahoddedigion, i dreulio prydnawnau mewn llawenydd.
Cwbyn o hogyn pert oedd Llewelyn pan ddaethom ni gyntaf i'w adnabod. Un o'r pethau cyntaf yr ydym yn gofio am dano yw, ddarfod iddo feddwi un noson, pan yn chwech