oed, trwy iddo fedru gweithio 'i ffordd i'r ystafell lle yr oedd ei dad ac eraill wedi bod yn cydswpera, ac yn yfed yn dra helaeth. Noson lawen oedd hono yn ystafell Meredydd Parri, ac nid bychan y canmoliaeth a roddai'r gwahoddedigion i'r seigiau a barotowyd ar eu cyfer, yn enwedig y gwin, a'r gwirodydd eraill a huliai'r bwrdd ar ol swper. "Wyddoch chwi beth, Mr. Parri - mae genych win campus," meddai un.
"Oes—y mae'n ddigon a gwneyd i'r hen dduwiau Bacchus a Jupiter fyn'd ar eu sbri, a dawnsio ar eu sodlau, dai ddim ond wrth ei arogli, chwaithach ei yfed," meddai un arall.
"Foneddigion," ebe'r trydydd, "yr wyf yn cynnyg iechyd da ein gwestywr caredig heno—oes hir iddo i ymenwogi yn mysg marsiandwyr penaf y byd, a gwneyd ei hun yn enwog a defnyddiol fel amddiffynwr iawnderau politicaidd y wlad. Boed i'w frodyr marsiandol edrych arno fel ar eu tywysog; boed i'w anturiaethau esgor ar lwyddiant diffael; a phan fo'n tybied yn oreu ymneillduo o dwrf masnach, boed i'r gweddill o'i oes gael ei dreulio mewn mwyniant, llawenydd, a dedwyddwch. Boed i'w blant dyfu yn deilwng o hono ef, a dal i fyny urddas ei enw 'tra môr tra Brython,' iechyd da a hir oes i Mr. Parri!"
Pa mor ragorol bynag oedd teimladau cyffredinol Mr. Parri, a pha mor dreiddgraff bynag oedd ei farn a'i reswm ar bynciau eraill, yr oedd bob amser yn dueddol i ddangos gwendid nid bychan pan yn derbyn canmoliaeth a chlod. Ac yr oedd y brwdfrydedd â pha un y cynnygiwyd, y derbyniwyd, ac yr yfwyd ei iechyd da, yn ddigon i wneyd pob teimlad urddasog, balch, a chwyddedig, gyfodi i'w fynwes. Teimlai ei hun y dyn dedwyddaf yn y byd. Cyfododd i gydnabod y cibli mewn araeth fer, gan gyfeirio'n frysiog at ei fuchedd flaenorol — ei lwyddiant, ei gysylltiadau parchus ac yn benaf, at ei egwyddorion politicaidd, gan mai ar adeg derfysglyd yn y wladwriaeth y cyfarfuasant yn nghyd, ac i gydymgynghori pa fodd i gael rhyw gyfaill i fod yn aelod seneddol dros y sir, yn gystal ag i ddangos eu dymuniadau am lwyddiant i Mr. Parri mewn anturiaeth fasnachol bwysig ag yr oedd ar fedr ei gwneyd.
Yn nerth ei ddïod, galwodd Mr. Parri am Llewelyn bach i'r ystafell, er mwyn dangos i'r cwmpeini'r fath fachgen bywiog a chall oedd ganddo. Ac er mwyn rhoddi prawf ar ei alluoedd ymadroddol a'i ffraethineb, cytunasant i'w osod i gynnyg un llwnc-destun, sef coffadwriaeth yr hen