Nid ydym hyd yn hyn wedi son gair am Gwen bach, chwaer Llewelyn. Genethig anwyl oedd hi, ieuangach na'i brawd o dair blwydd. Ni welsom erioed ddernyn perffeithiach nag ydoedd, yn mhob dull a modd, os nad oedd braidd yn rhy eiddil. Arferai pawb ddyweyd wrth syllu ar ddwysder ei gwedd, ceinder ei pherson, tynerwch ei hymarweddiad, mwynder ei llais, na fyddai byw'n hirnad oedd bosibl i un o'i bath drigo llawer o flynyddoedd yn awyrgylch lygredig yr hen ddaear yma.
Ond, fe genfydd y darllenydd, wrth fyned yn mlaen, fod bwriad y nef, gyda golwg ar Gwen bach yn wahanol i ragddaroganau dynion a merched yr ardal. A chan fod rhagluniaeth wedi trefnu ar fod i fywyd Gwen feddu'r fath ddylanwad ar yr eiddo ei brawd, fe'n hesgusodir am gyfeirio at y lodes brydweddol yn y fan yma.
PENNOD III.
DIWRNOD llawen yn mhorthladd B—— oedd y diwrnod y cychwynodd Meredydd Parri am New York. Yr oedd ganddo o driugain i bedwar-ugain o seiri llongau, nifer o lafurwyr cyffredin, ysgrifyddion, &c., yn ei wasanaethu yn y fan hono; ac er mwyn cadw argraph tangnefeddus, garuaidd, a'u symbylu i fod yn ffyddlon iddo yn ystod ei absenoldeb, a'i groesawu'n fwy ar ei ddychweliad drachefn, penderfynodd Mr. Parri roddi diwrnod o ŵyl iddynt oll, a'u cyflenwi â digonedd o fwyd a diod, a phob darpariaeth i'w gwneyd yn llawen a hapus.
Cofied y darllenydd fod cymeryd mordaith i New York yn amgylchiad a greai lawer mwy o ddyddordeb yn y dyddiau hyny nag a wna yn awr. A thyna y rheswm paham yr oedd y fath dwrf yn nghylch ymadawiad Mr. Parri am chwe' mis.
Y canlyniad o roddi y diwrnod gŵyl yma oedd, i amryw o'r gweithwyr dori dros derfynau sobrwydd, a meddwi. Yr oedd y cwrw i'w gael gyda'r fath helaethrwydd, fel ag i drachwant y mwyaf awchus gael ei dori; ac fe yfwyd y fath nifer o lwncdestunau yn y ciniaw, fel ag i wneyd rhai a arferent fod fwyaf sobr bob amser yn "feddw fawr."
Ond aeth hyny drosodd fel pob peth arall, a thybiwyd fod pob adgof o hono wedi ei gladdu cyn pen y pymthegnos.