Ond un boregwaith teg, pan oedd Mrs. Parri newydd ddychwelyd o'i rhodianfa ger glan yr afon, a'i hysbryd a'i chorph wedi eu hadnewyddu'n fawr gan swyn y golygfeydd o'i hamgylch; a phan oedd yn myned i dynu ei shawl oddiam ei hysgwyddau, daeth y forwyn ati, a dywedai fod rhyw ddynes yn y gegin yn dymuno siarad â hi. Dywedodd Mrs. Parri y deuai ati cyn bo hir, ac am iddi aros nes y byddai iddi newid ei gwisg.
"Ond, meistres," ebe'r enethig, "y mae hi'n deud na rosiff hi ddim munud hwy, ac y rhaid iddi hi gael eich gweled chi'r munud yma."
"Wel, wel, os felly mae pethau'n bod," atebai'r feistres, "gwell iddi gael ei boddloni, pwy bynag yw hi." Ac i lawr â hi at y ddynes. daynes.
Wedi myned i'r gegin, canfyddodd mai gwraig i un o'r seiri llongau oedd yno yn ei dysgwyl, yr hon oedd wedi bod mewn amseroedd a aethant heibio'n dlawd iawn, mewn canlyniad i feddwdod Sion William, ei gŵr; a'r hon a waredwyd lawer gwaith trwy garedigrwydd Mrs. Parri, rhag marw o newyn. Dyn cryf, tyner, a diwyd oedd Sion William pan yn sobr; ond pan oedd yn feddw nid oedd ymhel âg ef. Bu am flynyddoedd yn dywysog ar feddwon yr ardal; ond yr oedd, er's ychydig fisoedd, wedi troi'n ddyn cymedrol; a'r canlyniad fu, i raddau o dawelwch, tangnefedd, a llwyddiant, ail-wenu ar ei dŷ a'i dylwyth.
Pan ddaeth Mrs. Parri at Mari Williams, fe'i brawychwyd wrth weled y fath olwg anynad, gwgus, ac anfoddog ar ei hen gyfeilles, yr hon oedd wedi derbyn cymaint o garedigrwydd oddiar ei llaw.
"Beth ydyw hyn Mari Fach?" gofynai. "Yr ydych yn edrych fel pe baech mewn trwbwl mawr am rywbeth."
Prin y gellid dychymygu fel y tremiai Mari Williams ar ei holyddes, gyda'r fath olygon ffyrnig, nes braidd y gallesid ei chamgymeryd am arthes wedi colli ei chenawon.
"Trwbwl!" meddai; "a da y gellwch ei alw'n drwbwl!" Ydyw Sion wedi troi i yfed ato ?"
"Ydyw'n waeth nag erioed!"
"Ow! ow!—gresyn calon!"
"Gresyn! Ië-yr wyf fi a fy mhlant bach yn sicr o gael teimlo hyny i'r byw bellach. Ond fe gaiff rhywun arall deimlo hefyd, marciwch chwi!"
"Yr ydych mewn cyffro mawr; treiwch feddiannu tipyn arnoch eich hun, Mari," meddai Mrs. Parri.
"Cynghor braf i un yn fy sefyllfa fi! Wyddoch chwi mo hanner yr hyn a wni; ond mi gewch wybod yn ddigon buan,