Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llywelyn Parri.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mi w'ranta! Bydd yn ddrwg genych glywed pwy a archollodd fy enaid i trwy achosi i Sion fyn'd yn feddwyn yn ei ol!"

"A fu gan rywun law yn ei ddenu i feddwi'r tro yma ?" gofynai Mrs. Parri'n dyner.

"Do! ac y mae Duw'n rhwym o dalu'n ol iddynt yn nydd y farn. Ai tybed y caiff peth fel hyn fyn'd heibio'n ddisylw gan Farnwr yr holl ddaear? Os caiff, y mae yr holl drafferth a gymerwyd i fy nysgu fi yn yr Ysgol Sul yn nghylch cyfiawnder y nef, wedi myn'd yn ofer. Gŵr byneddig, braf, wir! Ah! Mrs. Parri, y mae fy holl annedwyddwch i-holl drallod fy nheulu-holl weithredoedd fy ngwr meddw—yn awr yn gorwedd wrth ddrws eich gŵr chwi. Y fo fu'r achos i Sion golli ei draed y tro yma; ac y fo raid ateb am hyny hefyd.!"

"Hust, Mari Williams!" gorchymynai Mrs. Parri; "raid i chwi beidio siarad fel yna yn fy ngwyneb ac yn fy nhŷ fy hun."

"Ha! ai ê?--ond mi fynaf siarad, ma'm, o ran mi ddaethum i yma i dd'weyd y gwir noeth lymun, pwy bynag a archollir trwy hyny."

"Pa beth a wnaethum i tuag at haeddu cael fy archolli?" "Y chwi, Mrs. Parri! yr ydych chwi'n angyles o wraig, yr oreu yn yr holl ardaloedd; ac wedi bod lawer gwaith cyn hyn yn foddion i achub fy mywyd i a fy mhlant bychain; ïe, yr ydych yn rhy dda iddo fo. Ond am Mr. Parri, y mae——"

"'Rhoswch,'rhoswch, Mari," meddai Mrs. Parri drachefn; "Pa beth bynag yw fy ngŵr, y mae e'n anwyl genyf fi, ae nis gallaf oddef gwrando ar neb yn ei iselhau fel hyn."

"Pa fodd bynag am hyny," atebai Mari, " y mae'n rhaid i chwi wrando'r tro yma. Os yw e'n anwyl genych, nid yw ond yr hyn oedd Sion genyf inau bob amser tra yn sobr. Nid oes dim caredicach dyn nag ef ar ddau droed, pan na fydd dan effaith cwrw a licar; ac ni fu yr un dafn y tufewn i'w enau er's llawer o fisoedd, hyd nes y rhoddwyd gŵyl i'ch holl bobol chwi, pan gychwynodd Mr. Parri i ffordd; a rhag dangos ei hun yn llai awyddus na'r gweithwyr eraill i yfed iechyd da i'w feistr a'i holl deulu, gyda'r cwrw a roddwyd iddynt gan Mr. Parri ei hun, efe a feddwodd; a meddw yw byth er hyny. Gwyddoch o'r goreu ei fod yn arfer ennill ei driswllt y dydd; a galluogodd y cyflog hwnw, trwy gynildeb a sobrwydd, ni i wneyd ein hunain yn o hapus a thaclus. Dechreuad bywyd newydd oedd hyn i mi, a theimlwn fy hun, gyda gŵr sobr, a phlant iach a glanweth