o fy nghwmpas, y ddynes ddedwyddaf yn y wlad. Ond'rwan! O, y mae fy nghalon braidd a thori wrth feddwl! Y mae Sion heb wneyd diwrnod o waith byth er yr adeg felldigedig honno; ac y mae'n feddw bob dydd a nos. ychydig arian oeddym wedi gadw ar gyfer y rhent, y maent wedi eu gwario bob ffyrling-y mae'r plant bron ll'wgu ac y mae yntau yn feddw!"
Canfyddid yn amlwg fod araeth Mari Williams wedi cael effaith dwys ar feddwl Mrs. Parri. Ond nis gallasai ddyweyd yr un gair, er fod ei chalon yn cyd-dystiolaethu â Mari Williams, fod gan Mr. Parri law yn llithriad Sion Williams i'w hen arferion o feddwdod; ac yr oedd y wraig fwyn yn ddigon parod i ollwng dagrau o herwydd hyny. Nis gallai wneyd dim ond cadw 'i llygaid yn sefydlog ar gareg yr aelwyd.
Trôdd gwraig y meddwyn at wraig y marsiandwr unwaith drachefn, gyda gwyneb ag y gallesid tybied iddo fod yn brydferth iawn unwaith, ond yr hwn a edrychai yn awr gyn oered, hagred, a chaleted a chareg gallestr.
"Y mae'r gwaetha' heb ei ddyweyd eto, Mrs. Parri," meddai, mewn llais haner taglyd, "Y mae Ann bach wedi marw!"
"Dear me! Ann bach! beth oedd arni hi?" "Oh, dim byd rhyfedd: bu farw o herwydd i ryw ŵr mawr fod yn achos i'w thad feddwi!"
"Ai rhyw angel drwg wedi ei hanfon yma i fy mhoeni ydyw'r ddynes yma?" murmurai Gwen Parri wrthi ei hun. "Gŵyr pawb mai diafl o ddyn ydyw Sion pan yn feddw," ychwanegai'r ddynes, "er ei fod mor dawel ag oen pan yn sobr. Yr oedd yn rhaid iddo gael ychwaneg a 'chwaneg o ddïod, nes meddwi waeth-waeth—dechreuodd fyn'd yn greulon ataf fi a'r plant; ac am i mi geisio ei rwystro i niweidio'r eneth bach, cipiodd afael ynddi o fy llaw, ysgytiodd hi yn ffyrnig, fel pe buasai tiger yn ysgytio oenig —tarawodd hi yn erbyn y gadair, ac aeth allan dan regi! Wydda fo ddim nad oedd hi'n gorph marw ar y lle; a phan gyfodais hi i fyny, mi dybiais inau ei bod. Ond fe gefais ar ddeall toc nad oedd hi wedi ei lladd, o herwydd hi a ddechreuodd ruddfan yn druenus; a phob tro y gwnawn ei symud, rhoddai'r fath ysgrech ag a waedai fy nghalon —rhaid fod rhai o'i hesgyrn wedi eu tori. Gorweddai yn fy mreichiau'r noson hono, a thrwy'r dydd dranoeth; a neithiwr bu farw!"
Yr oedd yn syn gweled y fam drallodedig yn meddiannu ei hun cystal wrth fyned dros y rhan ddiweddaf o'i hanes.