Edrychai mor ddiysgog a delw o farmor. Tybed nad oedd hi yn teimlo dim! Ah! mwy tebyg yw ei bod yn teimlo gormod. Y mae ambell i drallod yn lladd pob ymddangosiad o deimlad; ond bydd, yr amser hono, yr ysbryd yn cael ei gnoi gan boen.
Nid felly yn union yr oedd Mrs. Parri. Hi a daflodd ei hun i'w chadair mewn math o lewyg ysgafn, a'r dagrau mawrion yn treiglo i lawr hyd ei gruddiau prydferth ond gwelwon. Gwelodd Mari Williams hyny, a dywedodd,—
"Raid i chwi ddim gollwng dagrau beth bynag; nid wyf fi wedi gwneyd hyny eto. Wylais i yr un defnyn mwy na chraig. Ond fe fu rhyw feddyliau erchyll yn gwau trwy fy ymenydd. Fel yr eisteddwn am oriau meithion ar yr aelwyd ddidân, gan ddal fy mabi ar fy nglin, ac edrych ar ei gwyneb gwyn, gyda chylchau duon o gwmpas ei llygaid cauedig, a gwrando ar ei gruddfanau, bum yn meddwl am eich mab a'ch merch chwi, a bu braidd i mi eu melldithio a'u rhegu o herwydd bai eu tad!"
Buasai yn annichonadwy iddi daro ar dant mwy annedwydd a dinystriol i heddwch meddwl Mrs. Parri, druan. Cyrhaeddodd yr awgrymiad hyd adref.
"Oh! Mari Williams, peidiwch siarad fel yna!" meddai, gan ddal ei dwylaw i fyny, fel pe mewn gweddi, tra y treiddiai ias oer trwy ei henaid wrth feddwl am ei bachgen a'i geneth hi gyda haner melldith ar eu penau diniwed. "Na, ni fedr neb ddymuno drwg iddynt hwy!" dywedai yn isel.
"Na fedr, neb, er mwyn eu mam!" meddai'r ddynes; " ond y mae arnaf ryw led ofn y daw'r drwg i'w cwpan, yn enwedig y bachgen, heb i neb ei ddymuno. Y mae Duw yn ymweled ag anwiredd y tadau ar y plant. Ond os erbyd Duw eich plant chwi, ni wna hyny byth er mwyn eu tad!" Teimlai Mrs. Parri awydd am i'r ymddiddan yma ddarfod, a dywedodd,
"A gaf fi ddyfod gyda chwi adref, i edrych beth fedrwn ni wneyd i Ann bach?"
"Os ydych yn dewis, ma'm; ond ychydig iawn ellir wneyd iddi hi'rwan!"
Tarawodd Mrs. Parri ei mantell drosti, ac aeth gyda Mari Williams yn ddioed.
Aeth ias o arswyd dros ei chorph llednais pan gyrhaeddodd yr anedd ddigysur. Gwelai ddau blentyn llwydaidd geneth oedd un-yn gwargrymu ar yr aelwyd oer; gwyddai fod y cwpbwrdd yn wag; gwelai'r ffenestr yn ddarnau; a gwaeth na'r cyfan, tynid ei sylw at y corphyn bychan a orweddai ar y gwely—y plentyn llofruddiedig! Aeth ati,