PENNOD V.
Nis gwelwyd mo Mrs. Parri, byth ar ol marwolaeth frawychus ei gŵr yn ymgymysgu fel cynt yn y cylchoedd llawen a diofal, ond cysegrodd ei hoes o hyny allan at geisio gwneyd rhyw les yn y dref—at esmwythau gobenydd rhyw ddyn neu ddynes sâl—at estyn tamaid at safn rhyw un ar haner newynu—at leddfu poen rhywun mewn gofid—at weinyddu balm crefydd i enaid rhywrai trallodedig—ac at ddwyn i fynu ei dau blentyn yn ofn Duw. Penderfynodd ddefnyddio'r gyfran helaeth o gyfoeth a adawodd ei gŵr iddi hi, at wneyd rhyw les yn ei hoes, a gwneyd y defnydd goreu o gyfran Llewelyn a Gwen bach, fel ag iddynt gael rhywbeth i bwyso arno wrth ddechreu byw. Apwyntiodd gyfreithiwr parchus a chyfoethog, o'r enw Mr. Powell, i fod yn warcheidwad i'w phlant.
Un o'r pethau cyntaf a wnaeth y weddw, yn ei hynt ymweliadol â thruenusion y dref, oedd ceisio dod o hyd i anneddau'r meddwon mwyaf nodedig, a gwneyd rhywbeth ar eu rhan. Yr oedd meddwdod cyntaf Llewelyn bach amgylchiad teuluaidd sobr Sion Williams—a marwolaeth ddisyfyd ei gŵr—wedi bod yn foddion effeithiol i beri iddi deimlo mwy dros gyflwr y meddwon, na'r un dosbarth arall.
Pan yn parotoi ei hun un bore i fyned allan ar ei neges ganmoladwy, daeth llythyr iddi o Gaerlleon. Hawdd oedd gweled ar sirioldeb ei llygaid, wrth ddarllen y marc post, a'r llawysgrifen, ei fod yn dyfod oddi wrth rywun ag yr oedd hi yn ei garu. Cusanodd ef hefyd wrth weled y geiriau, "Dearest Mother," yn ei ddechreu.
Iawn yw gwneyd yn hysbys yn y fan yma, fod Llewelyn wedi ei anfon i'r ysgol i Gaerlleon, er mwyn perffeithio 'i dafod yn fwy yn yr iaith Saesonaeg, a dysgu gwersi uwch nag a ddysgai gartref. Cedwid dynes yn y tŷ o bwrpas i ddysgu Gwen bach, yr hon oedd yn rhy ieuanc ac eiddil i fyned o'r cartref.
Y llythyr hwn oedd i hysbysu fod Llewelyn yn ymbarotoi i ddyfod gartref i fwrw gwyliau Calanmai.
Fe ddaeth adref, yn fachgenyn llawn ysbryd, bywiogrwydd, talent, a chariad. Synai ei fam at y cynydd a wnaeth yn ei wybodaeth a'i foesau; ac nid oedd yr un petrusder yn ei meddwl na thyfai ei mab i fynu yn addurn i'w hen ddyddiau hi, ac yn fendith i'w oes.